Mae Tesco wedi ymddiheuro am atal cwsmeriaid, ar gam, rhag prynu cynnyrch misglwyf yn un o’i archfarchnadoedd yng Nghaerdydd fel rhan o’r mesurau clo newydd, gan awgrymu nad oedd y cynnyrch yn “hanfodol”.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Sul bod gan archfarchnadoedd “ddisgresiwn” ynglŷn â gwahardd gwerthiant rhai eitemau sydd ddim yn hanfodol yn ystod y cyfnod clo byr.

Ond ddydd Llun (Hydref 26) roedd rhai cwsmeriaid oedd yn chwilio am gynnyrch misglwyf yn yr archfarchnad yn Llaneirwg, Caerdydd wedi darganfod bod yr adran fferyllol yn Tesco wedi cau.

Yn dilyn cyfres o sylwadau ar Twitter fe ymatebodd Tesco drwy ddweud: “Ry’n ni’n deall pa mor rhwystredig ydy’r newidiadau yma i’n cwsmeriaid yng Nghymru.

“Ond ry’n ni wedi cael cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru i beidio gwerthu’r eitemau yma yn ystod y cyfnod clo.”

“Anghywir”

Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymateb drwy gywiro Tesco gan ddweud: “Mae hyn yn anghywir – mae cynnyrch misglwyf yn hanfodol.

“Fe all archfarchnadoedd barhau i werthu eitemau sy’n cael eu gwerthu mewn fferyllfeydd. Mae gwerthu eitemau hanfodol yn unig yn ystod y clo yn ceisio atal pobl rhag treulio mwy o amser nag sydd angen yn y siopau. Ond ni ddylai hynny eich atal rhag cael mynediad at eitemau sydd eu hangen.”

Mae’r cwmni archfarchnad bellach wedi ymddiheuro “am unrhyw ddryswch a achoswyd” gan ychwanegu bod y mater wedi codi mewn un o’i archfarchnadoedd yn unig a bod hynny’n cael ei gywiro’n syth.

Daeth y cyfyngiadau newydd i rym yng Nghymru o 6yh nos Wener a bydd yn dod i ben ar Dachwedd 9. Mae’n golygu bod siopau sy’n gwerthu eitemau sydd ddim yn hanfodol fel siopau dillad, dodrefn a gwerthwyr ceir, yn gorfod cau.

“Tristáu”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething ei fod wedi’i “dristáu” o glywed am y digwyddiad, gan ychwanegu “mae hyn yn hollol anghywir.”

Dywedodd Tesco bod yr adran honno o’r archfarchnad wedi cau oherwydd bod rhywrai wedi ceisio torri mewn.

“Dw i’n siomedig iawn o weld hyn. Mae hyn yn anghywir”, meddai’r Gweinidog Iechyd.

“Mae’n ddehongliad anghywir o’r canllawiau.

“Mae’n ddrwg iawn gen i fod y fenyw hon wedi cael y wybodaeth anghywir yma.”

Eglurodd fod archfarchnadoedd yn gallu gwerthu eitemau bob dydd sydd eu hangen ar y cyhoedd.

“Ond mae rhai eitemau eraill na fydd ar werth am y pythefnos nesaf – mae’r rhain yn eitemau na all siopau eraill ar y stryd fawr, sydd ar gau ar hyn o bryd, eu gwerthu.”

Dywedodd y byddai gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cwrdd ag archfarchnadoedd yn ddiweddarach ddydd Llun (Hydref 26) i drafod y gwaharddiad.

Gwaharddiad “gwallgof”

Yn y cyfamser mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i alw am roi’r gorau i’r gwaharddiad “gwallgof”.

Dywedodd Andrew RT Davies, gweinidog iechyd cysgodol Ceidwadwyr Cymru, fod yr “anhrefn a’r dryswch” yn ganlyniad uniongyrchol i’r gwaharddiad.

“Mae’r polisi chwerthinllyd hwn wedi achosi dicter gwirioneddol ac nid yw’n deg ar staff sy’n gweithio yn ein harchfarchnadoedd a’r cyhoedd yng Nghymru sydd bellach ar ben eu tennyn gyda gweinidogion Llafur,” meddai Mr Davies.

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhuthro polisi nad oedd archfarchnad fwyaf y wlad hyd yn oed yn ei ddeall a bai’r Prif Weinidog a’i gydweithwyr yw hynny.”

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo’r Torïaid o fanteisio’n wleidyddol ar y sefyllfa, ond hefyd wedi mynnu y dylai Llywodraeth Cymru “gwympo ar ei bai”.