Mae arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Douglas Ross, wedi dweud wrth ei ASau yn San Steffan i roi’r gorau i bleidleisio ar ddeddfwriaeth “Lloegr yn unig.”
Daw hyn ar ôl iddo wynebu beirniadaeth lem dros fethiant i gefnogi prydau ysgol am ddim i blant yn Lloegr.
Roedd Douglas Ross wedi ymatal ar gynnig y Blaid Lafur, fyddai wedi ymestyn prydau ysgol am ddim i gynnwys gwyliau ysgol tan ar ôl y Pasg 2021.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban eisoes wedi ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim hyd at Pasg 2021.
Doedd yr un o’r pump ASau Ceidwadol yr Alban wedi pleidleisio dros gynnig y Blaid Lafur.
Fodd bynnag, mae Douglas Ross wedi cefnogi penderfyniad yr SNP i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau tan ar ôl Pasg 2021.
Cafodd ei herio gan yr SNP a fyddai’n pleidleisio dros ail gynnig Llafur i sicrhau prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau, sydd wedi cael cefnogaeth eang ar ôl ymgyrch gan Marcus Rashford.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd yr SNP yn San Steffan, Kristen Oswald, bod angen i Douglas Ross “achub ei hygrededd” drwy gefnogi prydau ysgol am ddim mewn ail bleidlais “a gorchymyn i’w ASau wneud yr un peth”.
Dywedodd llefarydd ar ran Ceidwadwyr yr Alban: “Mae Ceidwadwyr yr Alban yn cefnogi ymgyrch Marcus Rashford, sydd wedi bod yn hynod ysbrydoledig.
“Rhaid i Lywodraeth y DU ei hystyried o ddifrif a gwrando ar yr ystod eang o leisiau sy’n cefnogi’r polisi hwn cyn unrhyw bleidlais yn y dyfodol.
“Yn y dyfodol, ni fydd ein ASau yn cymryd rhan mewn pleidleisiau sy’n ymwneud â Lloegr yn unig.”