Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod pob gwyliau ysgol tan Pasg 2021 wedi cael ei groesawu gan chwaraewr pêl-droed Manchester United, Marcus Rashford.

Mae £11m wedi ei gadarnhau gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams er mwyn darparu’r prydau bwyd.

Mae’r Gweinidog wedi cadarnhau hefyd fod mwy na £700,000 ar gael i helpu colegau gyda’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr cymwys.

“Mae’n bleser gen i gadarnhau ein bod ni heddiw wedi neilltuo £11m ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim yn ystod pob gwyliau ysgol hyd at a chan gynnwys Pasg 2021,” meddai Kirsty Williams.

“Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd hyn yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl yn y cyfnod hwn o ansicrwydd.”

“Hanfodol”

Ychwanegodd Marcus Rashford: “Mae darpariaeth yn ystod y gwyliau yn hanfodol i sicrhau sefydlogrwydd ar aelwydydd tra bo ysgolion ar gau, gan ystyried effeithiau andwyol Covid-19.

“Mae’r ffaith bod y fframwaith hwn yn ei le am y tro yn mynd i gael effaith gadarnhaol sylweddol ar blant sy’n cael trafferth dysgu yn sgil pryder ac ofn, gyda’u stumogau’n cnoi ag awydd bwyd.

“Ni ddylai unrhyw blentyn yn 2020 fod yn eistedd mewn ystafell ddosbarth yn poeni sut mae’n mynd i gael bwyd yn ystod y gwyliau, a’r effaith y bydd yn ei gael ar rieni sy’n dygymod â diweithdra, afiechyd ac mewn rhai achosion, colled bersonol.

“Mae gymaint o waith i’w wneud o hyd i amddiffyn y genhedlaeth nesaf, ond rwy’n croesawu ymateb sydyn Llywodraeth Cymru i’r angen i ddiogelu’r plant mwyaf agored i niwed ar draws y wlad ar frys. Ein plant a’u lles ddylai fod yn flaenoriaeth i ni bob tro.”

NEU Cymru’n croesawu’r cyhoeddiad

Mae Undeb Addysg Genedlaethol Cymru (NEU Cymru) hefyd wedi croesawu cyhoeddiad Kirsty Williams.

“Mae Undeb Addysg Genedlaethol Cymru yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu darparu prydau ysgol am ddim am weddill tymor y Senedd,” meddai David Evans, Ysgrifennydd Undeb Addysg Genedlaethol Cymru.

“Nid ydym eisiau gweld plant a phobol ifanc yn poeni am eu prydau bwyd dros y gwyliau.”