Mae Cyngor Gwynedd wedi rhybuddio pobol i gael gwared ar fygydau diogelwch mewn modd cyfrifol.

Dywed staff y Cyngor ei bod wedi gweld cynnydd mewn sbwriel ar y stryd yn dilyn y defnydd o fygydau a gorchuddion diogelwch sy’n cael eu gadael ar lawr.

Maen nhw’n rhybuddio bod taflu masgiau ar y llawr yn gwneud llanast, yn ogystal â chynyddu lledaeniad y firws.

“Gall yr un cam bach ychwanegol yma wneud gwahaniaeth mawr.”

“Gallwch brynu neu greu mygydau y gellir eu defnyddio fwy nag unwaith, ond os byddwch chi’n defnyddio gorchudd un tro, plîs rhowch y mwgwd mewn bag plastig cyn ei daflu,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd.

“Gyda disgwyliad fod pobl dros 11 oed yn gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do bellach, mae hi mor bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd cyfrifoldeb. Rydym yn gofyn i bobl gael gwared â’r masgiau mewn modd fydd yn ein helpu i atal lledaeniad y firws yn ogystal ag amddiffyn yr amgylchedd.

“Os ydi’r mwgwd yn cynnwys strapiau i’w ddal ar eich wyneb, torrwch y rhain cyn ei daflu os gwelwch yn dda, er mwyn atal anifeiliaid rhag mynd yn sownd ynddynt a all achosi niwed iddynt.

“Gall yr un cam bach ychwanegol yma wneud gwahaniaeth mawr.”