Mae neges e-bost wedi cael ei datgelu sy’n dangos chwipiaid Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn nodi “pwyntiau gwleidyddol” y gall ASau Ceidwadol eu gwneud wrth ymateb i’r ffrae prydau ysgol.

Cafodd yr e-bost ei rannu ar Trydar gan Olygydd POLITICO London Playbook, Alex Wickham.

Neithiwr, fe bleidleisiodd ASau yn erbyn cynnig y Blaid Lafur i ymestyn prydau ysgol am ddim i gynnwys gwyliau tan ar ôl Pasg 2021, gyda 261 o blaid a 322 yn erbyn.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur, Angela Rayner, fod y Ceidwadwyr wedi pleidleisio dros adael i dros 1.4 miliwn o blant i fyw heb brydau ysgol dros y gwyliau.

“Heno pleidleisiais i fwydo plant bregus ein gwlad. Pleidleisiodd y Ceidwadwyr i’w gadael nhw fynd heb fwyd.”

A bore ’ma fe ymddiswyddodd yr AS Ceidwadol Caroline Ansell o’i rôl fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat ar ôl pleidleisio gyda’r Blaid Lafur o blaid y cynnig.

Wrth esbonio ei phenderfyniad, dywedodd: “Yn yr amseroedd anodd hyn, dw i’n credu y dylem wneud popeth yn ein gallu i helpu teuluoedd incwm isel a’u plant sy’n ei chael hi’n anodd yn sgil effaith y feirws.”

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban eisoes wedi ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim hyd a chan gynnwys Pasg 2021.

“Pwyntiau Gwleidyddol”

Un o’r “pwyntiau gwleidyddol” y mae’r chwipiaid yn eu hawgrymu i ASau Ceidwadol ei wneud yw pwysleisio’r ffaith bod Llafur wedi gwrthod ymestyn prydau am ddim i’r gwyliau pan roedden nhw mewn pŵer.

Mae’n cynnwys dyfyniad gan y Gweinidog Ysgolion ar y pryd Kevin Brennan yn egluro’r penderfyniad dros 10 mlynedd yn ôl.

Dywed yr e-bost bod hefyd bod gwiriad ffeithiau annibynnol yn cadarnhau bod mwy o blant yn derbyn prydau am ddim gyda Chredyd Cynhwysol na system y Blaid Lafur.

Mae’r e-bost yn mynd ymlaen i awgrymu cwestiynau i ASau Ceidwadol ofyn yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Fe wnaeth ysgolion ymdrech aruthrol yn gynharach y flwyddyn hon er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw blentyn sy’n arfer derbyn pryd ysgol am ddim yn cael ei amddifadu.

“All fy nghyfaill anrhydeddus fy sicrhau fod ei adran yn gweithio gyda’r sector er mwyn sicrhau nad yw unrhyw blentyn sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn colli allan oherwydd ei bod yn gorfod hunanynysu gartref?”

Awgrymodd Alex Wickham fod hyn yn “methu’r pwynt yn fwriadol cyn hanner tymor.”

Marcus Rashford MBE yn galw ar Aelodau Seneddol i fynd i’r afael â thlodi bwyd

Mae Marcus Rashford MBE, sydd i bob pwrpas yn arwain yr ymgyrch dros brydau ysgol am ddim, wedi dweud fod gan “dlodi bwyd plant y potensial i fod y pandemig mwyaf mae’r wlad erioed wedi ei wynebu” a galw ar Aelodau Seneddol i “fynd i’r afael â hyn.”

“Does gen i ddim addysg gwleidydd… ond mae gen i addysg gymdeithasol a dw i wedi byw drwy hyn,” meddai.

“Mae’r plant yma o bwys… ac thra nad oes ganddynt lais, bydd ganddynt fy llais i.”