Mae’n “briodol” bod myfyrwyr wedi dychwelyd i brifysgolion yng Nghymru, a byddai peidio ag agor prifysgolion wedi esgor ar broblemau.

Dyna ddywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, mewn cynhadledd i’r wasg Llywodraeth Cymru brynhawn heddiw.

Mae pob un o brifysgolion Cymru wedi profi achosion o’r feirws – gallwch ddarllen adroddiad golwg360 ynghylch hynny fan hyn – ac mae cwestiynau o hyd am sut Nadolig caiff ein myfyrwyr.

Yn ystod y gynhadledd holwyd a fyddai wedi bod yn well cadw’r sefydliadau yma ar gau er lles iechyd ac iechyd meddwl myfyrwyr Cymru, ond wfftio hynny wnaeth y Gweinidog.

“Does dim y fath beth â phenderfyniadau hawdd [yn y cyd-destun yma],” meddai. “A dw i wastad yn rhoi ystyriaeth lawn i iechyd meddwl myfyrwyr.

“Pe bawn wedi stopio prifysgolion rhag cynnal eu gwaith eleni, byddai hynny hefyd wedi cael effaith sylweddol ar gyfleon, uchelgeisiau, ac iechyd meddwl a lles y myfyrwyr hynny na fyddai wedi parhau â’u haddysg.

“Mae myfyrwyr wedi medru dychwelyd i’r brifysgol ar gyfer cyfuniad o ddysgu o bell, ac wyneb i wyneb. Mae hynny’n briodol.

“A dw i’n ddiolchgar iawn am ymdrechion y prifysgolion yng Nghymru wrth reoli […] achosion o fewn cyd-destunau prifysgolion, ac wrth gefnogi myfyrwyr pan mae hynny’n digwydd.”

Myfyrwyr i hunanynysu cyn y Nadolig?

Dywedodd Kirsty Williams fod trafodaethau yn mynd rhagddynt ar draws y Deyrnas Unedig o ran a fydd gofyn i fyfyrwyr prifysgol hunanynysu cyn dychwelyd i’w cartrefi teuluol ar gyfer y Nadolig.

Dywedodd y byddai pob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig yn cyfarfod yr wythnos nesaf i benderfynu sut y gallent hwyluso “dychweliad diogel” i fyfyrwyr ym mis Rhagfyr yn ogystal â sut i gyfyngu ar faint o amser y gallai fod yn rhaid iddynt ynysu.

“O fewn yr hanner awr diwethaf, dw i wedi gorffen cyfarfod gyda chydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig, yn trafod sut y gallwn sicrhau y bydd myfyrwyr, lle bynnag y maent yn astudio yn y Deyrnas Unedig, yn gallu dychwelyd adref yn ddiogel ar gyfer y Nadolig,” meddai wrth y gynhadledd i’r wasg yng Nghaerdydd.

“Rydym yn edrych ar amrywiaeth o opsiynau i ganiatáu i hynny ddigwydd. Mae hunan-unigedd yn ystyriaeth weithredol a sut y gallwn gyfyngu ar faint o amser y bydd pobl yn hunanynysu – ac mae dulliau eraill yn cael eu hystyried.

“Byddwn yn cyfarfod eto fel pedair gwlad yr wythnos nesaf i drafod cynnydd a sut y gallwn weithredu’r dychweliad diogel hwnnw.”

Sefyllfa ysgolion

Wrth annerch y wasg datgelodd bod 74% o ysgolion yng Nghymru heb brofi achosion o’r coronafeirws.

Dywedodd hefyd y byddai diweddariad ar Dachwedd 10 ynghylch arholiadau ysgolion flwyddyn nesa. Cafodd yr arholiadau eu canslo eleni, ac roedd cryn stŵr ynghylch y system dyfarnu’r graddau.