Mae Canghellor y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak, wedi cyhoeddi biliynau o bunnoedd o gymorth ychwanegol i gwmnïau a gweithwyr sy’n cael eu heffeithio gan gyfyngiadau coronafeirws.

Mae’r pecyn yn cynnwys ehangu’r Cynllun Gwarchod Swyddi, sy’n cymryd lle’r system ffyrlo.

Yn hytrach na bod yn gymwys i bobol mewn swyddi “cymwys” sy’n gweithio traean o’u horiau arferol, bydd nawr ar gael i bobol sy’n gwneud 20% o’u gwaith arferol.

Ac mae faint sy’n rhaid i gyflogwyr dalu tuag at gyflogau wedi cael ei ostwng o 33% i 5%.

Bydd cymorth ychwanegol i’r hunangyflogedig yn gweld y swm a gwmpesir gan grantiau yn cynyddu o 20% o’r elw i 40%, sy’n golygu y bydd uchafswm y taliad yn cynyddu o £1,875 i £3,750.

Cymorth i fusnesau

Bydd yno grantiau o £2,100 ar gael i fusnesau Haen 2 yn Lloegr, sy’n bennaf wedi ei anelu at gefnogi’r diwydiant lletygarwch a lleoliadau hamdden.

Daw hyn ar ben lefelau uwch fyth o gefnogaeth i fusnesau mewn ardaloedd sy’n symud i Haen 3 yn Lloegr.

Bydd tua 150,000 o fusnesau’n gymwys i dderbyn cefnogaeth, yn ôl y Trysorlys.

Dywedodd Rishi Sunak fod y newidiadau yn golygu “bod ein cefnogaeth yn cyrraedd mwy o bobol ac yn gwarchod mwy o swyddi.”

“Dw i’n gwybod bod cyflwyno cyfyngiadau pellach wedi achosi poen meddwl i bobol, eu teuluoedd, a’u cymunedau,” meddai.

“Dw i’n gobeithio y gall cefnogaeth y Llywodraeth fod yn rhan o’r wlad yn dod ei gilydd yn y misoedd nesaf.”

“Bu bron i mi syrthio oddi ar fy nghadair!” – Andy Burnham

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Maer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, a fuodd mewn dadl chwerw gyda’r Llywodraeth ynghylch symud ei ranbarth i Haen 3: “Pam yn y byd chafodd hyn ddim ei gynnig ddydd Mawrth er mwyn sicrhau cytundeb gyda ni?”

Dywedodd Mr Burnham ei fod yn “gegagored” a holodd pam nad oedd hyn “ar y bwrdd” yn ystod ei drafodaethau gyda’r Prif Weinidog.

Dywedodd Mr Burnham, a oedd yn siarad ar BBC Radio Manchester:

“Rydyn ni newydd glywed yn y newyddion, rydyn ni’n cael yr holl arian hwn nawr ar gyfer Haen 2… wel rydyn ni wedi bod ynddo ers tri mis, fel y dywedodd Syr Richard Leese (Arweinydd Cyngor Dinas Manceinion), a dim ond nawr bod Llundain yn dod i mewn iddo maen nhw’n rhoi’r arian!

“Bu bron i mi syrthio oddi ar fy nghadair yn y swyddfa wrth imi gael y newyddion yna cyn i mi ddod yma.

“Gan fy mod yn y trafodaethau hynny ddydd Mawrth a’r achos mawr a wnes i i’r Prif Weinidog oedd, ‘Allwch chi ddim ein trin yr un fath â dinas-ranbarth Lerpwl neu Swydd Gaerhirfryn’ [Lancashire],” meddai.

“Rydym wedi bod yn y cyfyngiadau hyn ers tri mis felly mae ein busnesau’n nes at yr ymyl nawr nag y maent mewn mannau eraill ac mae’n rhaid ystyried hynny yn y pecyn ariannu ar gyfer Haen 3.

“Ond maen nhw nawr newydd roi ar y bwrdd heddiw y cyllid ychwanegol, mae’n debyg – byddai hynny wedi sicrhau canlyniad gwahanol iawn yn bosib ddydd Mawrth.

“Dwi jyst… pam y maen nhw wedi gwneud hynny?

“Maen nhw wedi fy nghyhuddo o wleidydda. Pe baen nhw jyst wedi gwneud yr hyn yr oedden nhw ‘n addo ei wneud, fydden ni ddim hyd yn oed wedi mynd i’r sefyllfa honno ddydd Mawrth.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymateb i’r cyhoeddiad gan ddweud nad cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd yn ddigon pell.