Ar ôl enwi’i dîm i wynebu Ffrainc mae Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi bod yn egluro rhai o’i ddewisiadau mewn cynhadledd i’r wasg gafodd ei gynnal dros y we.
“Ein blaenoriaeth yw chwarae’r gêm ac yna gorffen y Chwe Gwlad yn dda”, meddai.
“Mae’n wych cael yr ornest yma i arwain at hynny.
“Rhaid cofio ein bod ni hefyd yn freintiedig iawn i allu gwneud hyn pan mae llawer o bobol eraill yn methu mynd i’w gwaith.
“Os rywbeth mae’n ein gwneud ni hyd yn oed yn fwy parod i wneud y wlad yn falch.”
Alun Wyn Jones
Nos Sadwrn, Hydref 24, bydd capten Cymru, Alun Wyn Jones, yn chwarae ei 148fed gêm brawf ac yn dod yn gyfartal â chyn-gapten Seland Newydd, Richie McCaw.
“Mae’r hyn mae wedi ei gyflawni yn wych”, meddai Wayne Pivac.
“Mae’n crynhoi’r hyn y mae chwaraewr rygbi gwych yn ei olygu.
“Mae’n ŵr bonheddig ac yn weithiwr proffesiynol ar ac oddi ar y cae.
“Gallwn ni ddim gofyn mwy o’n capten ac rydym yn freintiedig iawn yma yng Nghymru i’w gael.”
Mae’n bosib y gallai’r Cymro 35 oed dorri’r record yn erbyn yr Alban ym Mharc y Scarlets y penwythnos nesaf.
Cap cyntaf i Louis Rees-Zammit
Ynghyd a’r bachwr Sam Parry, mae’r asgellwr ifanc Louis Rees-Zammit, sydd newydd gael ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Gallagher Premiership yn Lloegr, wedi ei gynnwys ar y fainc am y tro cyntaf.
“Doedden ni ddim yn meddwl ei fod yn hollol barod yn gynharach eleni -roedd yna bethau roedd angen iddo weithio arnyn nhw.
“Ond roedd yn rhagorol wrth hyfforddi heddiw.
“Rwy’n gyffrous i’r holl chwaraewyr, ond mae’r capiau newydd bob amser yn gyffrous.
“Maen nhw wedi bod yn breuddwydio am y foment yma.”
Cadarnhaodd Wayne Pivac bydd Louis Rees-Zammit yn sicr yn chwarae rhan yn y gêm nos Sadwrn.
“Mae George [North] yn ffit iawn ar hyn o bryd a dw i’n meddwl bydd yn para 80 munud, tra efallai na fydd Jonathan [Davies] yn medru para’r gêm gyfan, efallai felly bydd George yn symud i ganol cae pan ddaw Louis ymlaen.”
Dim Ross Moriarty na Wyn Jones
Eglurodd Prif Hyfforddwr Cymru mai ei fwriad oedd dechrau Ross Moriarty yn erbyn y Ffrancwyr, ond iddo anafu ei ffêr wrth ymarfer.
“Roedd i fod i ddechrau ond fe gafodd anaf wrth ymarfer ddoe.”
Aaron Wainwright, Justin Tipuric a Taulupe Faletau sydd yn dechrau yn y rheng ôl, gyda James Davies ar y fainc.
Oherwydd anafiadau i Ross Morarty a Josh Navidi cadarnhaodd Wayne Pivac fod chwaraewr Gleision Caerdydd, Shane Lewis-Hughes, wedi ei alw i’r garfan.
Ychwanegodd y Prif Hyfforddwr fod y prop Wyn Jones wedi ei adael allan ar ôl methu hyfforddi wythnos diwethaf oherwydd anaf.
“Roedd yn cario cnoc yn ystod yr wythnos gyntaf.
“Ond mae’n gyfle i Rhys [Carré] gan ei fod wedi bod yn hyfforddi’n dda.
“Mae gan Wyn ychydig o waith i’w wneud ar ei gêm o hyd.”
Jonathan Davies yn help llaw i Nick Tompkins
Mae’r canolwr Jonathan Davies yn dechrau ei gêm gyntaf i Gymru ers anafu yng Nghwpan y Byd y llynedd.
Bydd hefyd yn ymuno a Nick Tompkins yn ganol cae am y tro cyntaf.
“Mae Nick yn dalentog iawn ac mae wedi rhoi ychydig o bwysau ymlaen ers y Chwe Gwlad.
“Bydd cael Jon wrth ei ymyl yn helpu, enwedig gan mai Jon yw un o’r goreuon yn y byd yn amddiffynnol.”
Webb neu Davies?
Mae Rhys Webb wedi ei ddewis o flaen Gareth Davies fel mewnwr.
“Un o’r pethau mawr rydyn ni’n siarad amdano yw cyflymder yn ardal y gwrthdaro.
“Mae’n Webb ychydig yn well ar hynny ac mae’n siaradwr da ar y cae.
“Mae’n gur pen da i’w gael.”
Beth ydych chi am wneud yn wahanol i gêm y Chwe Gwlad?
“Gobeithio ennill!”
“Na, roedd gennym fomentwm yn y gêm yna doeddem ddim yn cymryd ein cyfleoedd.
“Os byddwn ni’n dileu’r camgymeriadau, mi fyddwn ni mewn sefyllfa dda.”
Y Ffrancwyr oedd yn fuddugol o 27-23 fis Chwefror.
Dim ond un newid sydd i dîm Ffrainc enillodd yng Nghaerdydd.
Tîm Cymru
Olwyr: Leigh Halfpenny, George North, Jonathan Davies, Nick Tompkins, Josh Adams, Dan Biggar, Rhys Webb
Blaenwyr: Rhys Carre, Ryan Elias, Samson Lee, Cory Hill, Alun Wyn Jones (C), Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Taulupe Faletau,
Eilyddion: Sam Parry*, Nicky Smith, Dillon Lewis, Seb Davies, James Davies, Gareth Davies, Rhys Patchell, Louis Rees-Zammit*
*Cap cyntaf