Ennill o 4-0 oedd hanes tîm pêl-droed merched Cymru yn erbyn Ynysoedd y Ffaro yn ymgyrch ragbrofol Ewrop neithiwr (nos Iau, Hydref 23).

Roedd y merched yn chwarae tu ôl i ddrysau caeedig yng Nghasnewydd.

Roedd hi’n ddechrau rhwystredig i’r gêm i Gymru, cyn i Helen Ward sgorio yn yr hanner cyntaf.

Dyma oedd gôl gyntaf Helen Ward, sydd yn dal y record am y mwyaf o goliau i Gymru, mewn tair blynedd.

“Rwy’n hapus gyda’r gêm yn gyffredinol ond fe ddechreuon ni yn arafach nag y byddwn i wedi hoffi, yn ddelfrydol byddem ni wedi hoffi cymryd ychydig o’r cyfleoedd cynnar”, meddai rheolwr Cymru Jane Ludlow.

Jane Ludlow

Yn yr ail hanner roedd Cymru’n rheoli’r gêm yn gyffyrddus a sgoriodd Natasha Harding ddwy gôl cyn i Lily Woodham, a oedd yn ennill ei chap cyntaf, sgorio’r pedwerydd.

“Mae Lily wedi bod gyda ni ers pan oedd hi’n 12 oed ac mae’n wych gweld hi’n datblygu”, ychwanegodd Jane Ludlow.

“Diolch byth ddaru’r merched greu llawer o gyfleoedd felly rwy’n falch iawn.

“Roedd ambell un yn sefyll allan ac roeddem yn hapus i allu cael pum eilydd i gymryd rhan hefyd.

“Mae’r cyfan yn bositif ac yn barod ar gyfer y gêm i ddod”

Bydd Cymru yn wynebu Norwy, sydd ar frig y grŵp, yn Stadiwm Dinas Caerdydd wythnos nesaf.

Lily Woodham yn gwireddu breuddwyd

“Rydw i wedi bod gyda’r grwpiau oedran ers blynyddoedd ac mae wedi bod yn freuddwyd i mi ers blynyddoedd i wneud fy ymddangosiad cyntaf i Gymru”, meddai Lily Woodham.

“Dw i methu egluro cymaint mae hyn yn ei  olygu i mi.

“Dw i ar ben fy nigon, nid yn unig o gael fy ymddangosiad cyntaf ond hefyd o fod wedi sgorio gôl ar fy ymddangosiad cyntaf. ”