Bydd Cymru’n mynd i mewn i glo dros dro am bythefnos am 6pm heno [dydd Gwener 23 Hydref] mewn ymgais i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd rhag cael ei lethu gan ail don y coronafeirws.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y gallai’r clo “miniog a dwfn”, a gyflwynwyd i gyd-fynd â gwyliau hanner tymor, fod yn ddigon i osgoi clo cenedlaethol hirach a mwy niweidiol yn y misoedd i ddod.
O dan y mesurau, a fydd yn para 17 diwrnod tan 9 Tachwedd, gofynnir i bobl aros gartref a gadael am nifer cyfyngedig o resymau yn unig, gan gynnwys ymarfer corff, prynu cyflenwadau hanfodol, neu geisio neu ddarparu gofal.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, fod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau nad oedd y cyfnod o bythefnos yn cael ei wastraffu, a galwodd am gyhoeddi mwy o ddata i gefnogi’r clo cenedlaethol y mae’n ei alw’n “anghymesur”.
Dywedodd: “Ers misoedd rydym wedi bod yn galw am gyhoeddi achosion fesul cymuned, data demograffig, a [data ar] sut mae’r feirws yn cael ei drosglwyddo. Mae’n hanfodol bod data trosglwyddo yn cael ei gyhoeddi fel y gall pobl weld sut a ble y trosglwyddir y feirws – yn eu cartrefi, yn eu gwaith, ar gludiant, neu rywle arall.
“Mae’n destun pryder bod gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn dangos naill ai nad oes ganddynt y data hwn neu nad yw’n cefnogi eu penderfyniad enfawr i roi Cymru dan glo eto.
“Os yw Llywodraeth Cymru am roi pobl Cymru dan glo eto yn y dyfodol, mae angen iddynt fod yn agored ac yn dryloyw.”
Galwodd Mr Davies hefyd ar Lywodraeth Cymru i “fynd i’r afael” â’i threfn brofi, ar ôl i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gyfaddef nad oedd y wlad ar hyn o bryd yn gallu gwneud defnydd llawn o’i chapasiti o 15,000 o brofion y dydd.
“Ar gyfartaledd, dim ond 3,000 o brofion sy’n cael eu gwneud bob dydd gan labordai Cymru, gyda Llywodraeth y DU yn cynnal mwy na 6,000 o brofion y dydd yng Nghymru”, meddai.
“Mae angen cynllun ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r capasiti profi yng Nghymru yn llawn.”
O dan y clo dros dro – y firebreak fel y caiff ei alw – anogir pobl i weithio o gartref os oes modd, ac eithrio gweithwyr hanfodol.
Ni fydd pobl yn gallu cyfarfod dan do nac yn yr awyr agored gydag unrhyw un nad ydynt yn byw gyda nhw, gydag eithriadau i’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain.
Bydd pob busnes manwerthu, hamdden, lletygarwch a thwristiaeth nad yw’n hanfodol yn cau, ynghyd â chanolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu, tra bydd addoldai hefyd yn cael eu cau heblaw am ar gyfer angladdau neu seremonïau priodas.
Bydd cyfleusterau gofal plant yn aros ar agor yng Nghymru, gydag ysgolion cynradd ac arbenigol yn ailagor ar ôl yr egwyl hanner tymor.
Bydd ysgolion uwchradd hefyd yn ailagor ar ôl hanner tymor i blant ym mlynyddoedd saith ac wyth, yn ogystal â’r myfyrwyr mwyaf agored i niwed.
A bydd prifysgolion yn darparu cymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein, ond bydd yn ofynnol i fyfyrwyr aros yn eu llety.