Gallai’r bwlch graddau rhwng myfyrwyr du a myfyrwyr gwyn “gymryd 66 mlynedd i gau”, yn ôl adroddiad newydd.
Mae cynnydd prifysgolion o ran lleihau’r bwlch wedi bod yn rhy araf, yn ôl aelod o’r grŵp gweithredol ‘Advance HE’.
Yn gyffredinol, cafodd 81.4% o fyfyrwyr gwyn radd gyntaf neu 2:1 yn 2018-19, o gymharu â 68% o fyfyrwyr BAME, bwlch o 13.3 pwynt canran, yn ôl yr adroddiad.
Mae cyfran y myfyrwyr du gafodd y graddau uchaf hyd yn oed yn is (58.8%).
Mewn blog ar wefan Wonkhe, dywedodd Gary Loke, cyfarwyddwr gwybodaeth, arloesedd a chyflenwi ‘Advance HE’:
“Mae’r bwlch gwyn-BAME a’r bwlch gwyn-du wedi newid 0.3 pwynt canran ar gyfartaledd rhwng 2003-04 a 2018-19.
“Ar y gyfradd newid hon bydd hi’n 2070-71 pan fydd y bwlch gwyn-BAME yn cau, a 2085-86 pan fydd y bwlch du gwyn yn cau.”
Galw ar brifysgolion i weithredu er mwyn “datgymalu anghydraddoldeb strwythurol”
Dywedodd llefarydd ar ran ‘Universities UK’: “Mae prifysgolion wedi ymrwymo i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y gorau o’u hastudiaethau beth fo’u cefndir neu ethnigrwydd.
“Fel y noda’r adroddiad hwn, mae llawer o waith yn dal i’w wneud i ddileu anghydraddoldebau hiliol mewn addysg uwch.
“Mae llawer o’n haelodau eisoes wedi ymrwymo i’r siarter cydraddoldeb hiliol, ac mae UUK yn parhau â’i waith ar draws y sector i newid y diwylliant yn gadarnhaol.”