Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lansio rheolau a logos newydd fydd yn gwarchod bwydydd Prydeinig.
Bydd y rhain yn disodli cynllun arwyddion daearyddol y UE, sy’n diogelu bwyd a diod Prydeinig, ar ôl diwedd cyfnod trosglwyddo Brexit.
Dywedodd y Llywodraeth y cynlluniau yn sicrhau bo cwsmeriaid yn gallu prynu bwyd a diod gan wybod o ble y daeth a sut y cafodd ei gynhyrchu, yn ogystal ag amddiffyn cynhyrchwyr Prydeinig.
Bydd holl gynhyrchion y DU sy’n cael eu gwarchod gan gynllun arwyddion daearyddol yr UE yn parhau i gael eu diogelu yn y DU ac Ewrop.
A dywedodd y Llywodraeth ei bod yn gweithio i ehangu amddiffyniadau drwy gytundebau masnach rydd gyda gwledydd eraill.
“Bydd y logos newydd yn dod yn sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu dewis y cynnyrch gorau o Brydain, o wisgi Scotch a chig oen Cymreig i hufen clwt Cernyw,” meddai’r Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, George Eustice.
Wrth groesawu’r cynllun newydd, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Rydyn ni’n falch iawn o’n sector bwyd a diod yng Nghymru, sydd wedi ennill enw da ledled y byd.
“Bydd y logos newydd sy’n cael eu datgelu heddiw yn sicrhau bod ein cynhyrchion gwarchodedig yn parhau i gael eu cydnabod am fod yn ddilys, yn unigryw ac o ansawdd uchel.”