Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, wedi ysgrifennu ar bobol fuodd yn cysgodi yn gynharach eleni er mwyn cynnig cyngor wrth i lefelau’r coronafeirws godi eto.

Yn y llythyr, mae Dr Frank Atherton yn darparu cymorth a chanllawiau ar y canlynol:

  • Dewisiadau y gall pobol eu gwneud a’r camau i’w cymryd, i helpu i leihau risg.
  • Brechlyn rhag y ffliw.
  • Y cymorth sydd ar gael.
  • Plant a chamau gwarchod.
  • Mynd i’r gwaith a’r ysgol.
  • Os bydd pobol yn datblygu symptomau’r coronafeirws.
  • Byw o ddydd i ddydd.
  • Gofalu am eu lles.

“Mae’r feirws hwn yn debygol o fod yn rhan o’n bywydau am beth amser eto”

“Rydym yn gwybod bod y camau gwarchod wedi helpu i wneud i rai pobl deimlo’n fwy diogel, ond i lawer o bobl eraill roedd yna anfanteision sylweddol i’r cyngor a roddwyd, yn enwedig teimlo’n unig ac ar wahân,” meddai’r llythyr.

“Gan ein bod yn deall effeithiau’r coronafeirws yn well nawr, rydym yn gwybod hefyd nad yw llawer o grwpiau o bobl sydd fwyaf tebygol o fod yn ddifrifol wael neu farw yn cael eu cynnwys yn y dull a gymerwyd gennym o’r blaen, a oedd yn seiliedig ar gyflyrau meddygol.

“Mae’r feirws hwn yn debygol o fod yn rhan o’n bywydau am beth amser eto ac felly rwyf am eich helpu i fyw’n ddiogel ochr yn ochr ag ef.

“Rwyf yn deall bod hwn yn gyfnod anodd a heriol iawn i chi a’ch teulu.

“Rwyf am eich helpu i ddeall y dewisiadau y gallwch eu gwneud i leihau eich risg eich hun a hefyd eich helpu i drafod â’ch teulu a’ch ffrindiau sut y gallan nhw eich cefnogi drwy ddilyn yr un cyngor.

“Nid dim ond i’r rhai a oedd yn gwarchod eu hunain o’r blaen y mae’r canllawiau hyn – gall pawb eu dilyn i leihau eu risg.”