Mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi dweud nad yw Cynllun Gwarchod Swyddi diwygiedig Canghellor y DU, Rishi Sunak, yn mynd ddigon pell.
Bore ’ma (Hydref 22) cyhoeddodd Rishi Sunak biliynau o bunnoedd o gymorth ychwanegol i gwmnïau a gweithwyr sy’n cael eu heffeithio gan gyfyngiadau coronafeirws.
Mae’r pecyn yn cynnwys ehangu’r Cynllun Gwarchod Swyddi, sy’n cymryd lle’r system ffyrlo.
Ac er bod Rebecca Evans yn cydnabod bod y cyhoeddiad yn “gam yn y cyfeiriad cywir”, nad yw’r cyllid yn ddigon i sicrhau incwm gweithwyr.
“Er bod y cyhoeddiad heddiw yn gam yn y cyfeiriad cywir, rwy’n galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau na fydd cyflogwyr ar eu colled o dan y cynllun newydd hwn o gymharu â’r hyn roedden nhw’n ei gael o dan y Cynllun Cadw Swyddi [Ffyrlo],” meddai.
“Gydol yr argyfwng Covid, rydyn ni wedi darparu pecyn cymorth i fusnesau yma yng Nghymru sydd wedi bod yn fwy hael na’r hyn a ddarparwyd yn unrhyw ran arall o’r DU.
“Ond rydyn ni’n rhagweld y bydd y cymorth y byddwn ni’n ei ddarparu i fusnesau sy’n gorfod cau o ganlyniad i’r cyfnod atal byr bythefnos o hyd yn dal i fod yn fwy hael na’r hyn a ddarperir yn Lloegr.”
“Mae angen inni gael ymrwymiadau gwariant hirdymor gan Lywodraeth y DU”
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn anhapus bod Llywodraeth y DU yn bwriadu cynnal adolygiad blwyddyn o hyd ar wariant.
“Rhaid inni hefyd weld diwedd ar y dull tameidiog a fabwysedir gan Lywodraeth y DU o ymdrin â chyllid cyhoeddus. ” meddai Rebecca Evans.
Nid yw’r dull hwn, ynghyd â’r diffyg buddsoddi ar sail aml-flwyddyn, yn helpu’r sefyllfa o gwbl ac mae’n golygu bod y dasg o reoli ein cyllidebau yn un hynod anodd.
“Mae angen inni gael ymrwymiadau gwariant hirdymor gan Lywodraeth y DU er mwyn ein galluogi i barhau i ddiogelu pobl Cymru rhag effeithiau gwaethaf y pandemig, a’n helpu i reoli ein gwasanaethau cyhoeddus yn well a dechrau gosod y sylfeini ar gyfer adfer.”