Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi mynnu eto bod yn rhaid i’r defnydd o wersyll milwrol Penalun i gartrefu ceiswyr lloches ddod i ben.
Fis yn ol, datgelwyd y byddai ceiswyr lloches yn cael eu cartrefu ym Mhenalun tra bod eu ceisiadau am loches yn cael eu prosesu. Ers hynny, mae protestiadau wedi’u cynnal yn erbyn y penderfyniad, ynghyd a phrotestiadau gwrth-hiliaeth mewn ymateb.
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi mynegi pryderon sawl gwaith ynghylch pa mor addas yw gwersyll Penalun ar gyfer ceiswyr lloches.
“Annerbyniol”
Mewn datganiad heddiw [22 Hydref] am ei bryderon ynghylch addasrwydd y safle milwrol ar gyfer ceiswyr lloches, dywedodd Mark Drakeford ei bod yn “annerbyniol” bod y Swyddfa Gartref wedi “methu dro ar ôl tro â mynd i’r afael â materion difrifol ynghylch yr amodau byw yng ngwersyll milwrol Penalun.”
“Mae Llywodraeth Cymru a darparwyr gwasanaethau lleol wedi rhoi gwybod yn gyson i’r Swyddfa Gartref am y diffygion difrifol yn safon y llety ar gyfer ceiswyr lloches. Hyd yma, mae’r Swyddfa Gartref wedi methu gweithredu mewn unrhyw ffordd ystyrlon,” meddai yn y datganiad.
“Ni ddylid peryglu lles a diogelwch y ceiswyr lloches ar y safle, a rhaid i les y gymuned leol gael ei drin fel blaenoriaeth gan y Swyddfa Gartref.
“Rhaid i’r defnydd o’r gwersyll ddod i ben”
Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi egluro ei bryderon droeon, ac “wedi galw ar y Swyddfa Gartref i gau’r safle”.
“Nid yw eu methiant i weithredu’n dderbyniol” ychwanegodd.
“Rhaid i’r defnydd o’r gwersyll ddod i ben cyn gynted â phosib. Mae gan y Swyddfa Gartref ddyletswydd i ymyrryd, ac ni ddylai anwybyddu’r pryderon dilys sy’n cael eu codi gan bawb cysylltiedig.”
“Hyd nes bydd y Swyddfa Gartref yn gweithredu, byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid lleol i leihau risgiau a sicrhau’r lles gorau posib i bawb sy’n cael eu heffeithio.
“Mae Cymru yn Genedl Noddfa. Rydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i hynny, a dylai’r Swyddfa Gartref wneud yr un peth.”
Bythefnos yn ol daeth i’r amlwg mai trwy Facebook y cafodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, wybod am y cynllun ym Mhenalun – sydd yn ei etholaeth ei hun.