Mae aelodau Undeb Prifysgol a Choleg Bangor wedi pasio cynnig o ddiffyg hyder yn nhîm rheoli’r brifysgol ac ysgrifennu llythyr at yr Is-Ganghellor yn bygwth mynd ar streic dros gynlluniau i gael gwared ar 200 o staff.

Mis yn ôl, daeth i’r amlwg fod 200 o swyddi yn y fantol ym Mhrifysgol Bangor wrth i’r sefydliad gychwyn cyfnod o ymgynghori er mwyn arbed £13m.

Yna, ddechrau’r mis hwn, cyhoeddwyd manylion y diswyddiadau arfaethedig.

Byddai’r toriadau presennol yn golygu torri 20% o swyddi’r brifysgol ar draws ysgolion academaidd, Gwasanaethau TG, y llyfrgell a’r gwasanaeth cwnsela myfyrwyr.

Mae’r Undeb wedi cynnig toriad cyflog i’r holl staff am ddwy flynedd er mwyn osgoi colledion swyddi.

Staff ar waelod y raddfa gyflog (£20,130) fyddai’n derbyn y toriad lleiaf, sef 0.5%, tra y byddai rheolwyr â chyflogau dros £114,000 yn derbyn toriad o 15%.

Dywedodd yr Undeb y byddai hyn yn arbed rhwng £5m a £5.4m.

Streic

Mewn llythyr at Is-Ganghellor y brifysgol a Chadeirydd y Cyngor, dywedodd Llywydd UCU Bangor, Dr. Dyfrig Jones: “Byddwch, rwy’n siŵr, wedi gweld adroddiadau newyddion bod cangen UCU ym Mhrifysgol Heriot-Watt yng Nghaeredin heddiw wedi pleidleisio i weithredu’r ddiwydiannol.

“Mae’n gwbl bosibl y byddwn yn cael ein gorfodi i ddilyn yr un llwybr yma ym Mangor, oni bai bod newid cyfeiriad ar sylfaenol ar unwaith.”