Bydd pleidleiswyr yn heidio at Blaid Diddymu’r Cynulliad [sic] o’r Blaid Geidwadol, ac yn sgil ymateb Llywodraeth Cymru i’r argyfwng covid – dyna mae Mark Reckless, aelod mwyaf newydd y blaid honno, wedi ei ddweud mewn cyfweliad â phapur The Western Mail.
Mae Plaid Diddymu’r Cynulliad [sic] yn gobeithio rhoi diwedd ar y Senedd a datganoli, ac mae’r Aelod o’r Senedd yn ffyddiog bod cefnogaeth i’w safiad yng Nghymru.
Yn siarad â’r papur awgrymodd bod yna hollt rhwng Ceidwadwyr y Senedd (sy’n cefnogi datganoli), a’u cefnogwyr ar lawr gwlad, ac y bydd ei blaid newydd yn elwa o hynny.
“All y Ceidwadwyr wrthwynebu’r peth cymaint ag y hoffan nhw, ond dw i’n meddwl bydd yr hollt yn dod i’r wyneb fwyfwy, a byddwch yn gweld mwyfwy o bleidleiswyr Ceidwadol yn cefnogi Plaid Diddymu’r Cynulliad [sic], yn enwedig yn y rhestr ranbarthol [yn etholiad nesa’r Senedd].”
Llond bol o’r cyfyngiadau?
Er mai dim ond dau AoS sydd gan y blaid ar hyn o bryd – Gareth Bennett yw’r llall – a bod naill na’r llall wedi’i ethol tra’n cynrychioli’r blaid, mae’n ffyddiog bod pobol Cymru wedi cael llond bol o Lywodraeth Cymru, a bod awydd am ddiddymu ar dwf.
“Dw i’n credu bydd Plaid Diddymu’r Cynulliad [sic] yn torri trwodd i’r Cynulliad [sic],” meddai.
“Yn fwy nag unrhyw ffactor arall, bydd agwedd annibynnol Llywodraeth Cymru wrth reoli’r coronafeirws yn ysgogi tipyn yn rhagor o bobol i fynd i’r blychau pleidleisio i daro pleidlais tros Ddiddymu – mwy na fyddai wedi gwneud fel arall.”
O blaid i blaid… i blaid
Yr wythnos ddiwethaf, fe ddaeth i’r amlwg fod Mark Reckless wedi ildio’r awenau yn arweinydd Plaid Brexit yn y Senedd ac wedi ymuno â ‘Phlaid Diddymu’r Cynulliad [sic]’.
Cafodd ei ethol i’r Senedd yn 2016 yn Aelod UKIP ac ers hynny, mae e wedi newid plaid sawl gwaith.
Ar un adeg roedd yn aelod o grŵp y Ceidwadwyr, ac yn dilyn hynny roedd yn aelod annibynnol.
Ar ddechrau’r wythnos cafodd cyfweliad fideo ag ef ei gyhoeddi. Yn y fideo mae’n cwyno am ddylanwad y Gymraeg ar wleidyddiaeth yng Nghymru.