Mae dwy dafarn yn Aberystwyth wedi cael rhybudd i wella eu mesurau er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws.
Cafodd hysbysiad gwella ei gyflwyno i dafarn Yr Hen Lew Du a thafarn The Western yn dilyn ymweliadau gan swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion a Heddlu Dyfed-Powys.
Yn ystod ymweliadau â’r Hen Lew Du, dywedodd swyddogion fod angen gwelliannau er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau.
Roedd y gwelliannau hyn yn cynnwys:
- Sicrhau bod gwybodaeth olrhain cyswllt yn cael ei gasglu gan bob person yn y dafarn a’u cadw’n gywir.
- Rhoi mesurau ar waith i reoli’r palmant o flaen y dafarn fel bod modd cadw pellter cymdeithasol.
- Rheoli sut mae cwsmeriaid yn dod i mewn a gadael y dafarn yn ogystal â phan fydd cwsmeriaid yn ciwio.
O ran The Western, mae swyddogion am i’r dafarn:
- Sicrhau bod staff a chwsmeriaid yn gwisgo masg.
- Sicrhau nad yw cwsmeriaid yn eistedd/sefyll wrth y bar wrth archebu neu wrth fwyta/yfed.
- Sicrhau bod gwybodaeth olrhain cyswllt yn cael ei gasglu gan bob person yn y dafarn a’u cadw’n gywir.
Mae gan y ddwy dafarn 48 awr gywiro’r materion neu bydd camau gorfodi pellach yn cael eu hystyried, gan gynnwys yr opsiwn o gyflwyno hysbysiadau cau.