Mae Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, wedi enwi’i dîm i wynebu Ffrainc mewn gêm gyfeillgar yn y Stade de France nos Sadwrn, Hydref 24.

Dyma fydd y gêm rygbi ryngwladol gyntaf i Gymru chwarae mewn saith mis.

Oherwydd y coronafeirws bu rhaid gohirio gêm olaf y Chwe Gwlad a chanslo’r daith haf i Japan a Seland Newydd.

Carreg filltir i’r capten

Bydd capten Cymru, Alun Wyn Jones, yn chwarae ei 148fed gêm brawf ac yn dod yn gyfartal â chyn-gapten Seland Newydd Richie McCaw.

Mae’n bosib y gallai’r Cymro 35 oed dorri’r record yn erbyn yr Alban ym Mharc y Scarlets y penwythnos nesaf.

Cory Hill sydd yn ymuno ag Alun Wyn Jones yn yr ail reng.

Sam Parry

Dau enw newydd ar y fainc

Mae’r asgellwr ifanc Louis Rees-Zammit, sydd newydd gael ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Gallagher Premiership yn Lloegr, wedi ei gynnwys ar y fainc am y tro cyntaf.

Mae bachwr y Gweilch Sam Parry hefyd wedi ei gynnwys ar y fainc am y tro cyntaf.

Yn absenoldeb Ken Owens, sydd allan am hyd at 4 mis ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ysgwydd, Ryan Elias sydd yn dechrau fel bachwr.

Mae’r canolwr Jonathan Davies yn dechrau ei gêm gyntaf i Gymru ers anafu yng Nghwpan y Byd y llynedd.

Tîm Cymru

Olwyr: Leigh Halfpenny, George North, Jonathan Davies, Nick Tompkins, Josh Adams, Dan Biggar, Rhys Webb

Blaenwyr: Rhys Carre, Ryan Elias, Samson Lee, Cory Hill, Alun Wyn Jones (C), Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Taulupe Faletau,

Eilyddion: Sam Parry*, Nicky Smith, Dillon Lewis, Seb Davies, James Davies, Gareth Davies, Rhys Patchell, Louis Rees-Zammit*

*Cap cyntaf

Tîm Ffrainc

Er y pryderon na fyddai clybiau’r Top 14 yn rhyddhau chwaraewyr ar gyfer y gêm gyfeillgar mae Ffrainc wedi dewis carfan brofiadol.

Dim ond un newid sydd i’r tîm enillodd yng Nghaerdydd fis Chwefror.

Mae Vincent Rattez yn dychwelyd i’r asgell, a Gael Fickou yn symud yn ôl i ganol cae.

Olwyr: Anthony Bouthier; Teddy Thomas, Vrimi Vakatawa, Gael Fickou, Vincent Rattez; Romain Ntamack, Antoine Dupont

Blaenwyr: Cyril Baille, Julien Marchand, Mohamed Haouas, Bernard Le Roux, Damien Willemse, François Cros, Charles Ollivon (C), Gregory Aldritt

Eilyddion: Camille Chat, Jean-Baptiste Gros, Demba Bamba, Romain Taofifenua, Dylan Cretin, Baptiste Serin, Arthur Vincent, Thomas Ramos