Sgoriodd Harry Wilson, sydd ar fenthyg o Lerpwl, ei gôl gyntaf i Gaerdydd mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Bournemouth neithiwr (nos Fercher, Hydref 21).

Roedd y gwrthwynebwyr yn gyfarwydd i Harry Wilson gan iddo dreulio’r tymor diwethaf ar fenthyg gyda Bournemouth, wrth iddyn nhw ddisgyn o Uwch Gynghrair Lloegr i’r Bencampwriaeth.

Ond Bournemouth oedd ar y blaen ar hanner amser wrth i’w hymosodwr Dominic Solanke roi’r ymwelwyr ar y blaen ar ôl 35 munud.

Ac oni bai am arbediad campus gan gôl-geidwad Caerdydd, Alex Smithies, byddai Dominic Solanke wedi rhoi Bournemouth ddwy gôl ar y blaen.

Daeth Harry Wilson yn agos iawn i unioni’r sgôr gyda chic rydd wnaeth hitio’r bar, ond ar ôl 62 o funudau, llwyddodd y Cymro i daro cefn y rhwyd gan sicrhau pwynt i’r Adar Gleision.

Mae’r canlyniad yn gadael Caerdydd yn 13eg yn y Bencampwriaeth, triphwynt oddi ar y safleoedd gemau ail gyfle, tra bod Bournemouth wedi disgyn i’r pedwerydd safle.

Neil Harris “wedi mwynhau”

“Fe wnes i fwynhau honna. Dw i’n meddwl bod hi’n gêm rhwng dau dîm da ac roedd pwynt yr un yn deg. Mae’n bwynt mawr gartref.

“Dw i’n meddwl y bydd unrhyw dîm sy’n gorffen o flaen Bournemouth y tymor hwn yn cael dyrchafiad. Maen nhw’n dîm da, ond fe wnawn ni wella hefyd.”