Mae Clwb Criced Morgannwg wedi ymestyn cytundeb y wicedwr Tom Cullen am dymor arall.
Mae e wedi chwarae mewn 16 o gemau dosbarth cyntaf, gan gipio 45 o ddaliadau ac un stympiad, ac mae e hefyd wedi taro pedwar hanner canred gyda’r bat.
Ond prin fu ei gyfleoedd yn y tîm cyntaf hyd yn hyn, ac yntau’n chwarae ail feiolin i’r capten Chris Cooke.
Ond fe ddaeth ei gyfle mwyaf sylweddol yn 2019 pan gafodd Cooke ei anafu, wrth iddo fe sgorio dros 300 o rediadau ar gyfartaledd o fwy na 35.
Roedd e hefyd yn gapten ar yr ail dîm pan enillon nhw dlws y T20 yn Arundel y flwyddyn honno.
‘Hyfdra ac eofndra’
“Dw i wedi cyffroi’n fawr o gael cytundeb newydd,” meddai Tom Cullen.
“Dw i’n ceisio dod â min i’r tîm, yr hyfdra a’r eofndra mae Matt Maynard [y prif hyfforddwr] yn siarad amdanyn nhw.
“Rydyn ni am fagu agwedd o sefyll i fyny a dangos nad ydyn ni am gael ein gwthio drosodd.
“Dw i eisiau ailddarganfod fy mherfformiadau yn 2019 wrth i ni barhau i gymryd camau tuag at fod y tîm rydyn ni am fod.”
‘Cystadleuaeth rhwng y ddau wicedwr’
“Mae Tom wedi dangos ei hun fel cricedwr gwydn sy’n dod â chaledwch i’r tîm pan fo’n chwarae, ac mae e wedi dangos eisoes y gall e chwarae batiadau anodd sy’n helpu’r tîm i groesi’r llinell derfyn,” meddai Mark Wallace, cyfarwyddwr criced Morgannwg.
“Mae’r gystadleuaeth rhwng Chris a Tom yn eu helpu nhw i aros ar flaenau eu traed, ac mae gallu eu dewis nhw i chwarae ill dau ar yr un pryd yn cynnig llawer o hyblygrwydd i ni, ac mae’n hanfodol cydbwyso’r tîm yn ystod y tymor.
“Mae Tom eisiau bod yn fwy cyson gyda’r bat, a byddwn ni’n gwneud popeth allwn ni i’w helpu fe i barhau i wneud cynnydd fel chwaraewr, ac rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn arall gyda fe yn y garfan yn cynnig y tân cystadleuol hwnnw.”
Dau arall yn aros
Yn y cyfamser, mae Timm van der Gugten a Charlie Hemphrey hefyd am aros gyda’r sir.
Mae’r ddau wedi gweithredu cymal yn eu cytundebau i’w hymestyn am dymor arall ar sail eu perfformiadau dros y ddau dymor diwethaf.
Ond yn sgil Brexit, dydy hi ddim yn glir eto a fydd Marchant de Lange o Dde Affrica yn cael aros gyda’r sir.