Mae Undeb Rygbi Cymru wedi rhoi gwybod i glybiau rygbi lleol bod cyllid ychwanegol o £450,000 ar gael iddyn nhw i ddygymod â’r cyfnod clo.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd clo dros dro yn dod i rym am bythefnos yng Nghymru ddydd Gwener (Hydref 23).

Er y bydd chwaraeon proffesiynol yn parhau yn ystod y clo bydd chwaraeon cymunedol ac amatur yn cael eu hatal.

“Rydym yn deall y bydd llawer yn siomedig na allwn ddod at ein gilydd yn ein clybiau rygbi lleol, a bod angen i ni oedi wrth ddychwelyd i rygbi cymunedol am y tro”, meddai Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru.

“Ond rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r Gwasanaeth iechyd ac amddiffyn ein cymunedau ehangach yn ystod y cyfnod hwn.”

Mae’r cyllid ychwanegol yn cynnwys arian o Gronfa Argyfwng Undeb Rygbi Cymru a £280,000 gan Chwaraeon Cymru i helpu clybiau i ddychwelyd i rygbi.

Timau proffesiynol wedi eu heithrio

Ychwanegodd Julie Paterson, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Undeb Rygbi Cymru na fyddai’r clo dros dro yn effeithio ar y rhanbarthau na’r timau cenedlaethol.

“Mae gan ein timau rhyngwladol a phroffesiynol y protocolau iechyd a hylendid llymaf posibl ar waith sy’n cynnwys profion Covid-19 wythnosol a sgrinio iechyd trylwyr cyn pob sesiwn hyfforddi”, meddai.

Mi fydd tîm dynion Cymru yn wynebu Ffrainc ym Mharis nos Sadwrn, Hydref 24.

Y penwythnos canlynol fe fydd tîm dynion a menywod Cymru yn cwblhau pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020 a gafodd ei ohirio oherwydd y coronafeirws drwy groesawi’r Alban i Barc y Scarlets a Stadiwm Dinas Caerdydd.