Mae’r Gweinidog Addysg wedi dweud ei bod yn bosib y bydd gofyn i fyfyrwyr prifysgol ledled y Deyrnas Unedig hunanynysu cyn dychwelyd adref ar gyfer y Nadolig.
Dywedodd Kirsty Williams yn ei chynhadledd i’r wasg ei bod wedi cymryd rhan mewn trafodaethau gydag ysgrifenyddion addysg a swyddogion addysg Llywodraethau’r Deyrnas Unedig, yr Alban a Gogledd Iwerddon ddydd Iau [22 Hydref] ynghylch hwyluso’r “mudo torfol” o ddysgwyr ym mis Rhagfyr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cyfarfod wedi cael ei gadeirio gan Weinidog Swyddfa’r Cabinet, Michael Gove, a’i fod yn cynnwys Ysgrifenydd Addysg Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Gavin Williamson, Gweinidog Addysg yr Alban, John Swinney, yn ogystal â Gweinidog Prifysgolion Llywodraeth y DU, Michelle Donelan.
Mae cyfarfod pellach rhwng pedair gwlad y DU wedi’i drefnu yr wythnos nesaf i nodi sut y gallant sicrhau “dychweliad diogel” i fyfyrwyr a chyfyngu ar faint o amser y bydd angen iddynt hunanynysu.
Dywedodd Kirsty Williams: “Dw i newydd orffen cyfarfod gyda chydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig o fewn yr hanner awr ddiwethaf, gan drafod sut y gallwn sicrhau y bydd myfyrwyr, lle bynnag y maent yn astudio yn y DU, yn gallu dychwelyd adref yn ddiogel ar gyfer y Nadolig.
“Rydym yn edrych ar amrywiaeth o opsiynau i ganiatáu i hynny ddigwydd. Mae hunan-unigedd yn ystyriaeth weithredol, a sut y gallwn gyfyngu ar faint o amser y bydd pobl yn [gorfod] hunanynysu – ac mae dulliau eraill [hefyd] yn cael eu hystyried.
“Byddwn yn cyfarfod eto fel pedair gwlad yr wythnos nesaf i drafod cynnydd a sut y gallwn weithredu’r dychweliad diogel hwnnw.”
Dywedodd Ms Williams y byddai’r trafodaethau’n “ystyriol” o iechyd myfyrwyr ac yn “ymwybodol o iechyd eu rhieni… y maent yn mynd adref atynt, ac wrth gwrs y gymuned ehangach”.
Ychwanegodd: “O ystyried y ffaith fod hyn yn symudiad mawr o bobl ledled y Deyrnas Unedig, mae angen i ni wneud hynny ar sail pedair gwlad.
“Mae angen i Gymru wneud ei chynlluniau ei hun, ond mae angen i ni wneud hynny ar y cyd â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, gan gydnabod bod gennym fyfyrwyr o Ogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr yn astudio yng Nghymru, ac mae gennym lawer o fyfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
“Rydyn ni i gyd eisiau cyflawni’r un peth, sef cael ein pobl ifanc adref ar gyfer y Nadolig os mai dyna lle maen nhw eisiau bod.”