Mae bellach 8,000 o bobol yn aelodau o YesCymru.

Mae’r ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru wedi gweld cynnydd enfawr mewn cefnogaeth eleni.

2,500 o aelodau yn unig oedd gan y mudiad ddechrau’r flwyddyn.

‘Aelodau newydd yn hwb i’r mudiad’

“Mae hyn yn newyddion gwych!” meddai Sion Jobbins, Cadeirydd YesCymru

“Mae’r aelodau newydd hyn wedi ychwanegu hwb enfawr i’r mudiad.

“Mae ein haelodau yn fywiog ac yn angerddol yn eu penderfyniad i adeiladu Cymru newydd sy’n gofalu ar ôl holl drigolion Cymru.

“Mae 2021 yn mynd i fod yn flwyddyn ddiddorol iawn yn hanes Cymru, a dwi’n sicr y bydd YesCymru a’r ymgyrch dros annibyniaeth yn parhau i fynd o nerth i nerth”

Effaith Covid-19

Bu rhaid i YesCymru ganslo tair gorymdaith yn Wrecsam, Abertawe a Thredegar eleni oherwydd Covid-19.

Eglurodd Sion Jobbins, fod Covid-19 wedi gwneud i bobol sylweddoli fod “y Senedd yn llawer mwy cymwys i redeg materion Cymru na San Steffan.”

“Rydym eisoes yn gweld ffyrdd newydd o argyhoeddi eraill o’r angen am annibyniaeth.”