Mae cynrychiolwyr o bob un o’r cenhedloedd datganoledig wedi galw ar i Lywodraeth San Steffan gyflwyno cynllun cymorth yn gynt.
Mae cyfyngiadau eisoes wedi’u tynhau yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban ac mi fydd ‘clo dros dro’ yn dod i rym yng Nghymru ddydd Gwener.
Ym mhob un o’r gwledydd yma bydd busnesau’n gorfod cau, ac felly mae cynrychiolwyr o Blaid Cymru, yr SNP, yr SDLP ac Alliance wedi galw am weithredu.
Mewn llythyr at y Canghellor, Rishi Sunak, maen nhw’n galw am gyflwyno’r ‘Cynllun Cefnogi Swyddi’ – sydd i fod i gael ei gyflwyno ar Dachwedd 1 – yn gynt.
“Economeg fyrbwyll”
Mae Liz Saville Roberts, un o’r rheiny a arwyddodd y llythyr, wedi beirniadu “economeg fyrbwyll Dorïaidd” Llywodraeth San Steffan.
Ac mae wedi dweud bod hynny’n tanseilio ymdrechion “cyfrifol a chadarn” y llywodraethau yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon.
“Mae gan y Canghellor gyfrifoldeb i sicrhau bod mesurau iechyd cyhoeddus yn y cenhedloedd datganoledig yn cael eu cefnogi â chymorth ariannol digonol fel bod pobol yn medru fforddio aros yn ddiogel,” meddai. “Dyw’r pecyn presennol jest ddim yn ddigon da.
“Ar y lleia’, rhaid i’r Canghellor gyflwyno’r ‘Cynllun Cefnogi Swyddi’ wyth diwrnod yn gynt er mwyn sicrhau bod gweithwyr a busnesau sy’n cael eu heffeithio gan glo dros dro Cymru yn cael eu hiawndalu am eu gweithredoedd cyfrifol.”
Y llythyr
Ymhlith yr Aelodau Seneddol sydd wedi arwyddo’r llythyr mae Liz Saville Roberts, Ben Lake, a Hywel Williams o Blaid Cymru.
Mae Alison Thewliss, o’r SNP; Colum Eastwood, o’r SDLP; a Stephen Farry, o blaid Alliance; hefyd wedi rhoi eu llofnodion.
Bydd y cynllun ffyrlo presennol yn dod i ben ar Hydref 31, ond dyw busnesau ddim yn medru anfon ceisiadau am gymorth mwyach.
Mae’r ASau hefyd yn galw am sicrhau bod y ‘Cynllun Cefnogi Swyddi’ yn cynnig cymorth ar yr un lefel a’r hen sustem ffyrlo.