Mae un achos positif o’r coronafeirws wedi cael ei gadarnhau yn Ysgol Pencarnisiog ar Ynys Môn.

Cafodd rhieni a staff eu hysbysu ddoe (dydd Mercher, Hydref 21) ac maen nhw wedi derbyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu’r Gwasanaeth Iechyd (GIG Cymru) wedi derbyn manylion yr achos positif ac mae rhai disgyblion ac aelodau staff wedi derbyn cyngor i hunanynysu am 14 diwrnod.

Mae’r Cyngor wedi dweud wrth y rhai sydd wedi eu cynghori i hunanynysu wneud cais am brawf coronafeirws os ydynt yn datblygu unrhyw rai o’r symptomau yma, hyd yn oed os nad ydynt yn ddifrifol.

Dyma’r 12fed ysgol ar Ynys Môn sydd wedi cofnodi achosion positif o’r coronafeirws.

Cafodd achosion eu cadarnhau yn Ysgol Corn Hir, Ysgol y Borth, Ysgol Llanfechell, Ysgol Gymuned y Fali, Ysgol Uwchradd Llangefni, Ysgol Gynradd Talwrn, Ysgol Cybi, Ysgol Sefydledig Caergeiliog, Ysgol Llanfairpwll, ac Ysgol Rhyd y Llan.

Ymateb

“Mae cyfraddau Coronafeirws yn cynyddu ar yr Ynys ar hyn o bryd ac yn anffodus rydym yn gweld mwy a mwy o’r achosion yma mewn ysgolion,” meddai Annwen Morgan, prif weithredwr Cyngor Môn.

“Lles ein disgyblion, staff a’r gymuned ehangach yw ein prif flaenoriaeth, a byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn Ysgol Rhyd y Llan, yn ogystal ag ysgolion eraill sydd wedi’u heffeithio, er mwyn gweld os oes angen gweithredu pellach.

“Mae Canolfan brofi coronafeirws nawr ar gael yn Llangefni a byddwn yn annog unrhyw un sydd yn dangos symptomau i fynd am brawf cyn gynted â phosib.

“Os ydych yn mynd am brawf, mae’n hanfodol bod pawb yn eich cartref yn hunanynysu hyd nes cewch ganlyniad.”