Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw’n camu mewn i reoli rheilffyrdd Cymru.

Yn ôl y Llywodraeth, daw hyn yn dilyn “cwymp dramatig” mewn niferoedd teithwyr trafnidiaeth gyhoeddus dan gysgod covid-19.

Wrth gyhoeddi’r cam mae Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth, wedi dweud y bydd hyn yn diogelu swyddi, a gwasanaethau yng Nghymru.

“Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn hynod o heriol i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Mae covid wedi cael effaith sylweddol ar refeniw teithwyr, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod camu i mewn â chymorth sylweddol i sefydlogi’r rhwydwaith a’i gadw i fynd.”

Y drefn

Cafodd ‘Trafnidiaeth Cymru’ ei sefydlu yn 2016 fel is-gwmni o dan berchnogaeth lawn Llywodraeth Cymru.

A hyd yma mae ‘Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru’ wedi bod yn cael eu rheoli gan gwmni Keolis Amey, sy’n gweithredu ‘Gwasanaeth Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau’.

Maen nhw wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth trenau yng Nghymru ers mis Hydref 2018.

Yn ôl Ken Skates bydd y gwasanaethau bellach yn cael eu rheoli gan “is-gorff newydd i Drafnidiaeth Cymru sydd dan berchnogaeth gyhoeddus”.

Mae hefyd yn nodi “ein bod yn parhau i ymdrin â phethau fel partneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru a Keolis Amey wrth weithio â’n gilydd” i ddiogelu swyddi a gwasanaethau.

Dyw union natur y bartneriaeth yma â’r cwmni ddim yn glir.

‘Codi cwestiynau’

Mae Helen Mary Jones, llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru yn y Senedd, wedi dweud ei fod yn “ddigon posib mai dyma yw’r ateb cywir”. Er hynny, mae ganddi bryderon.

“Mae yna gwestiynau allweddol o hyd,” meddai. “Beth yw’r goblygiadau ariannol? Oes gan Trafnidiaeth Cymru y capasiti i reoli’r gwasanaeth yn uniongyrchol? Beth yw natur yr is-gorff yma?

“Dylai penderfyniadau mor bwysig â hyn gael eu cyhoeddi yn y Senedd fel bod aelodau yn medru gofyn cwestiynau ar ran pobol Cymru.

“Dw i’n ddiolchgar i’r Gweinidog am gytuno i gwrdd â fi mewn preifat i drafod, ond dyw hynny dim yr un peth â chraffu cyhoeddus. Mae yna le i ddadlau y dylid dod â’r Senedd ynghyd i drafod hyn.”

Cwestiynu’r gost

Mae llefarydd economi’r Ceidwadwyr yn y Senedd, Russell George, wedi cwestiynu faint fydd y cam yn costio’r trethdalwr, ac wedi dweud nad yw’n “obeithiol” am y penderfyniad.

“O ystyried pa mor ddibynnol mae pobol Cymru ar ddefnyddio trenau, allwn ni ddim caniatáu i Lywodraeth Lafur Cymru ei dryllio,” meddai. “Dyna maen nhw wedi ei wneud â Maes Awyr Caerdydd.”

“Cyn penderfynu ar hyn, dylai gweinidogion Llywodraeth Lafur Cymru fod wedi ymgynghori â’r Senedd ynghylch y rhestr o fethiannau a oedd yn wynebu’r diwydiant cyn covid – yn enwedig y stoc drenau hen ffasiwn – a hefyd ynghylch cost hyn i’r trethdalwr yng Nghymru.”

Tanwariant

Dair wythnos yn ol, ysgrifennodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Grant Shapps AS, i fynegi’i bryderon dwys am ei gyhoeddiad o £343m o arian “ychwanegol” ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru.

“I bob golwg, ychydig iawn o’r pecyn sy’n arian ‘newydd’”, meddai Ken Skates yn ei lythyr bryd hynny.

“Er enghraifft, y £58m ar gyfer gorsaf ganolog Caerdydd. Yn wir, cafodd rhannau o’r pecyn, fel yr arian ar gyfer trydaneiddio’r Cymoedd, eu cyhoeddi nôl yn 2014.”

Ar yr un adeg, cyfeiriodd Ken Skates at ymchwil gan Lywodraeth Cymru oedd yn tybio y gallai’r buddsoddiad o £50 biliwn yn rhwydwaith rheilffyrdd Lloegr dros y degawd nesaf arwain at danwariant o £2.4biliwn ar reilffyrdd Cymru.

Dywedodd Kan Sates bryd hynny: “Yn fy marn i, dim ond trwy ddatganoli’r pwerau dros seilwaith rheilffyrdd i Lywodraeth Cymru ynghyd â setliad cyllido llawn a theg, y mae gobaith unioni’r sefyllfa.”

Sibrydion ar-lein

Daw’r cyhoeddiad yn sgil adroddiad gan The Telegraph brynhawn dydd Mercher.

Wnaeth y stori esgor ar gryn fwrlwm ar gyfryngau cymdeithasol, a rhai oriau wedi ei chyhoeddi wnaeth y Llywodraeth gyhoeddi trydariad yn cadarnhau bod cyhoeddiad ar y gweill.