Fe fydd yr Arlywydd Donald Trump a’i wrthwynebydd Joe Biden yn mynd benben am y tro olaf cyn yr etholiad arlywyddol fis nesaf.

Bu’r ddau yn cymryd rhan mewn dadl danllyd fis diwethaf gyda Donald Trump ac ymgeisydd y Democratiaid yn torri ar draws ei gilydd yn barhaol.

Cafodd ail ddadl ei chanslo ar ôl i’r Arlywydd gael ei heintio gyda’r coronafeirws ac fe wrthododd gymryd rhan mewn dadl ar-lein. Yn hytrach mae’r ddau wedi bod yn cynnal digwyddiadau mewn neuaddau tref sydd wedi cael eu darlledu ar wahanol rwydweithiau teledu.

Fe fydd y ddadl heno (nos Iau, Hydref 22) yn cael ei chynnal yn Nashville, Tennessee a dyma fydd y tro olaf i’r ddau gwrdd cyn yr etholiad ymhen pythefnos.