Mae coeden ffawydden ger Abaty Margam ym Mort Talbot wedi ei henwi yn goeden y flwyddyn Cymru.

Mae Coeden Tŷ’r Siapter wedi darparu cysgod i ymwelwyr ers blynyddoedd – o bartïon te Fictoraidd i gynyrchiadau teledu fel Dr Who, Songs of Praise a Sex Education.

“Rydym yn meddwl fod y goeden tua 200 mlwydd oed”, meddai Jeanette Dunk, prif arddwr Parc Gwledig Margam.

“Ond prin iawn rydym ni’n gwybod am fywyd cynnar y goeden.

“Mae naws mamol iddi, bron fel petai’r goeden yn cynnig diogelwch i ni.

“Dw i’n falch iawn bod y goeden yma wedi ennill, bydd yn ei rhoi ar y map ac yn rhoi’r cyfle i blant ei mwynhau a bod yn rhan o’i hanes.”

Mae’r gystadleuaeth i ddod o hyd i Goeden y Flwyddyn yn cael ei chynnal gan y Woodland Trust.

Bydd y wobr o £1,000 yn cael ei wario ar gynnal y goeden.