Mae ysbytai yn Lerpwl yn trin mwy o gleifion coronafeirws nag oedden nhw pan oedd y pandemig ar ei anterth, yn ôl y cyfarwyddwr meddygol.

Dywedodd Dr Tristan Cope, cyfarwyddwr meddygol Ymddiriedolaeth Iechyd Ysbytai Athrofaol Lerpwl, sy’n gyfrifol am ysbytai’r Royal, Aintree a Broadgreen yn y ddinas, bod nifer y cleifion yn parhau i gynyddu.

“Yn anffodus rydyn ni bellach yn trin mwy o gleifion yn yr ysbyty gyda Covid-19 nag oedden ni ym mis Ebrill yn ystod anterth y don gyntaf ac mae’r nifer yn parhau i gynyddu,” trydarodd Dr Tristan Cope gan alw ar bobl Lerpwl i gadw at y mesurau ymbellhau cymdeithasol, golchi dwylo a gwisgo mygydau.

Ychwanegodd bod trin cymaint o gleifion Covid yn rhoi “straen aruthrol” ar staff yr ysbytai.

Rhanbarth dinas Lerpwl oedd yr ardal gyntaf i gael ei rhoi yn yr haen uchaf o gyfyngiadau, sef Haen 3, sy’n cynnwys cau tafarndai a bariau sydd ddim yn darparu bwyd.

Mae gan Lerpwl un o’r cyfraddau uchaf o achosion o’r coronafeirws yn y Deyrnas Unedig yn ôl y ffigurau diweddaraf, er bod y niferoedd yn dechrau gostwng.

Yn y saith diwrnod hyd at Hydref 17 cafodd 2,970 o achosion newydd eu cofnodi gan olygu bod graddfa o 596.3 o achosion am bob 100,000 o bobl – mae hyn yn ostyngiad o 691.7.