Fe fydd Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful yn derbyn £220m o gyllid ychwanegol er mwyn ei adnewyddu, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ddydd Iau (Hydref 22).

Caiff y cyllid ei ddefnyddio i adnewyddu a moderneiddio llawr gwaelod a llawr cyntaf yr ysbyty.

Mae’r ysbyty eisoes wedi derbyn £56m gan Lywodraeth Cymru i gwblhau camau blaenorol y cynllun.

Y bwriad yw dechrau ar y gwaith ym mis Tachwedd a’i gwblhau erbyn 2026.

Bydd yr ysbyty’n parhau’n weithredol yn ystod y cyfnod hwn.

Hwb economaidd

“Mae’r ysbyty’n darparu gofal hanfodol yn ardal Cwm Taf Morgannwg a thu hwnt i hynny, yn enwedig i nifer o drigolion Powys”, meddai Vaughan Gething.

“Yn ogystal â’r llu o fanteision iechyd a llesiant a ddaw o’r cyllid hwn, bydd y cyllid hefyd yn rhoi hwb economaidd i’r gymuned drwy gyflogi gweithwyr ac is-gontractwyr lleol.”

Bydd y cynllun yn creu dros 80 o brentisiaethau, a bydd dros 60% o’r gweithlu a gyflogir yn dod o Gymru.

Bydd 60% o werth y rhaglen adeiladu hefyd yn cael ei wario yng Nghymru.

‘Blaenoriaeth i’r bwrdd iechyd’

Dywedodd Paul Mears, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, bod ail-ddatblygu Ysbyty’r Tywysog Siarl yn “flaenoriaeth allweddol i’r bwrdd iechyd”.

“Bydd yn sicrhau y gallwn ddarparu gofal o ansawdd uchel i’r gymuned leol ac amgylchedd gwell i’n staff weithio ynddo”, meddai.

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi bod dan bwysau sylweddol oherwydd Covid-19.

Bu rhaid atal llawdriniaethau a dargyfeirio derbyniadau brys i ysbytai eraill oherwydd marwolaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg sy’n gysylltiedig ag achosion o’r coronafeirws.

Mae marwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion o’r coronafeirws hefyd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ymchwiliad i’r marwolaethau.