Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi galw am newid y ffordd mae Cymru’n ymateb i argyfwng yr hinsawdd er mwyn rheoli perygl llifogydd.

Daw hyn wedi i Stormydd Ciara, Dennis a Jorge arwain at y llifogydd mwyaf difrifol yng Nghymru ers 1979.

Er i 19,000 o gartrefi yn y de osgoi llifogydd yn ystod y stormydd oherwydd amddiffynfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru, cafodd o leiaf 3,130 o eiddo eu heffeithio ym mis Chwefror eleni.

Dyma hefyd oedd y mis Chwefror gwlypaf ers i gofnodion ddechrau.

‘Trobwynt tyngedfennol’

“Yn union fel yr oedd llifogydd 1979 yn drobwynt ar gyfer rheoli perygl llifogydd yng Nghymru, roedd digwyddiadau mis Chwefror yr un mor dyngedfennol”, meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Roedd llymder stormydd y gaeaf yn rhybudd o batrymau amlach o dywydd eithafol i ddod.

“Rhaid i’r profiadau hyn sbarduno’r trafodaethau am y buddsoddiadau sydd eu hangen, a’r paratoadau y mae angen i bob un ohonom eu gwneud i addasu i newid hinsawdd er mwyn atgyfnerthu gwytnwch Cymru i wynebu llifogydd am flynyddoedd i ddod.”

Ddechrau’r wythnos cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith i reoli’r risgiau sy’n deillio o lifogydd ac erydu arfordirol o ganlyniad i hinsawdd dros y degawd nesaf.

Adolygiad annibynnol

Mae Cyfoeth Naturiol wedi cyhoeddi canlyniadau adolygiad annibynnol i’w hymateb i’r stormydd ddechrau’r flwyddyn.

Mae’r adolygiad yn dangos fod y penderfyniadau a’r camau a gymerwyd gan staff Cyfoeth Naturiol Cymru wedi chwarae rhan sylweddol wrth leihau effeithiau’r llifogydd a allai fod wedi bod yn fwy difrifol ledled y wlad.

Serch hynny, roedd maint y digwyddiadau’n golygu bod straen mawr ar wasanaethau gan gynnwys ymateb i ddigwyddiadau a chyhoeddi rhybuddion llifogydd.

Er i Gyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi 243 o Rybuddion Llifogydd, ni chyhoeddwyd 12 rhybudd llifogydd lle dylid bod wedi’u cyhoeddi, a chyhoeddwyd chwech yn hwyr.

Mae’r holl waith o atgyweirio amddiffynfeydd bellach wedi’u cwblhau.

Gan ddefnyddio data sydd wedi ei gasglu mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi lansio ap mapio i helpu i gynllunio ar gyfer llifogydd.

Achubwyr yn Llanrwst
Achubwyr yn Llanrwst ar ôl llifogydd storm Ciara

‘Rhagor o ddigwyddiadau tywydd eithafol hyn yn y dyfodol’

Ychwanegodd Clare Pillman y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd canlyniadau’r adolygiadau o ddifrif, ac mae wedi galw am gefnogaeth sefydliadau eraill.

“Rydym wedi ymrwymo i weithredu’r gwelliannau y mae’n eu hargymell”, meddai.

“Er na allwn briodoli pob storm i effeithiau newid yn yr hinsawdd, mae’r dystiolaeth wyddonol yn awgrymu ein bod yn debygol o weld mwy o’r digwyddiadau tywydd eithafol hyn yn y dyfodol.

“Nid oes un ateb, ac mae’r her yn fwy nag y gall unrhyw un sefydliad fynd i’r afael ag ef ar ei ben ei hun.

“Dyna pam mae angen i bob lefel o lywodraeth, y sefydliadau sy’n gyfrifol am reoli perygl llifogydd, busnesau a’r cymunedau sydd mewn perygl, i gyd fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau, gan dynnu ar yr holl ddulliau sydd ar gael inni i ateb heriau hinsawdd sy’n newid.”