Roedd datblygu’r ap olrhain cyswllt ar gyfer Covid-19 yn broses “boenus” yn ôl pennaeth NHSX, sef is-adran arloesi’r GIG.
Gohiriwyd ap Cymru a Lloegr, sy’n defnyddio Bluetooth i gadw cofnod dienw o bobl sy’n agos, oherwydd materion technegol a phryderon am breifatrwydd.
Arweiniwyd y gwaith ar y fersiwn cyntaf gan NHSX ond trosglwyddwyd yr ap i wasanaeth Profi ac Olrhain y GIG ar yr ail fersiwn – fersiwn a fabwysiadodd system Apple a Google.
Rhyddhawyd yr ap ar 24 Medi ac mae wedi’i lawrlwytho dros 16 miliwn o weithiau hyd yma.
Wrth siarad am yr ap, dywedodd Matthew Gould, pennaeth NHSX, ei fod yn “gamgymeriad” peidio â dweud wrth y cyhoedd ei fod yn gweithio ar y ddau fersiwn o’r dechnoleg ar yr un pryd.
“Roedd yn [broses] boenus ond ar bob pwynt rwy’n meddwl ein bod wedi gwneud y peth iawn, mwy neu lai” meddai wrth gynhadledd FabChange2020.
“Dechreuon ni ddatblygu’r dechnoleg yn gynnar iawn – fel mae’n digwydd, wythnosau ac wythnosau cyn i Apple a Google ddod i mewn a dweud ‘ry’n ni’n datblygu ein API ein hunain’” [API: rhyngwyneb rhaglennu apiau]
“Pan gyhoeddwyd API Apple a Google ac iddyn nhw ddweud ‘ry’n ni’n gwneud fframwaith ond mae’n rhaid i chi fodloni amodau penodol i eistedd arno’, fe wnaethom sefydlu llinyn gwaith cyfochrog yn gyflym iawn gan ddatblygu fersiwn o’r ap a fyddai’n eistedd ar eu API.
“Nawr, rwy’n credu mai un o’r gwallau a wnaethom oedd peidio â dweud llawer mwy, yn gyhoeddus – ‘rydym yn gwneud hyn, mae’r traciau cyfochrog hyn ar waith’… er mwyn i’r cyhoedd ddod gyda ni ar ein taith.”