Mae Mark Drakeford wedi siarad yn agored am y “diwrnodau anodd” y wynebodd pan oedd ei wraig a’i fam yn sâl â choronafeirws fisoedd yn ôl.

Deufis yn ôl daeth i’r amlwg bod y Prif Weinidog wedi bod yn byw mewn tŷ allan yn ei ardd er mwyn diogelu ei deulu.

A bellach, yn siarad â BBC Newscast, mae wedi ymhelaethu’n rhagor ar ei brofiadau personol o’r argyfwng (roedd eisoes yn hysbys bod ei wraig a’i fam yn gwella o’r feirws).

“Ar lefel bersonol, cafwyd fy ngwraig a fy mam yn sâl â coronafeirws,” meddai, “ac mi ddaeth i bwynt lle doeddwn i ddim yn medru byw adre oherwydd roedd y ddwy yn fregus.

“Roedd yna ddiwrnodau anodd lle’r oedd y ddau ohonyn nhw’n sâl iawn.”

Beirniadu’r berthynas waith â Boris Johnson

Dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Newscast fod ei gyfarfod Cobra ddiwethaf gyda’r Prif Weinidog, Boris Johnson, tua phythefnos yn ôl.

Dywedodd ei fod wedi siarad â Mr Johnson am ei “ofid” nad oedd cyfarfodydd o’i fath yn cael eu cynnal yn fwy rheolaidd a’u disgrifio’n achlysurol ac ar fyr rybudd.

“Rydyn ni i gyd yn gwneud swyddi anhygoel o anodd gyda phenderfyniadau anodd i’w gwneud,” meddai Mr Drakeford.

“Rwy’n credu y byddem wedi wynebu hynny’n well pe baem wedi dod at ei gilydd yn amlach, byddem wedi gwneud hynny mewn ffordd a oedd yn ddibynadwy ac yn rhagweladwy.”

Dywedodd Mr Drakeford fod cyfarfod wythnosol yn swnio’n “rhesymol”, gan ychwanegu na fyddai angen iddo bara mwy na 30 munud.

“Heb yr ymdeimlad hwnnw o rhythm rheolaidd a dibynadwy i batrymau cyswllt rhyngom, rwy’n credu ei bod wedi bod yn anoddach gwneud y gwaith yn y ffordd yr hoffwn ein gweld yn ei wneud,” ychwanegodd.

Pwysau ar y GIG

Soniodd hefyd am yr heriau o fod yn Brif Weinidog yn ystod yr argyfwng, a’r posibiliad – yn gynt yn yr argyfwng – o’r GIG yn cael ei lethu gan bwysau covid.

“Pan rydych yn wynebu realiti hynna, a’r posibiliad y gallai hynna ddigwydd yma yng Nghymru, mae hynny’n sobri dyn,” meddai.

“Wnaethon ni lwyddo i osgoi hynna diolch byth.”