Mae’r Gweinidog Addysg, Kisty Williams, wedi dweud y bydd hi’n gwneud penderfyniad am arholiadau TGAU a Safon Uwch yn ail wythnos mis Tachwedd – ar ôl y cyfnod clo dros dro sydd yn dod i ben ar Dachwedd 9.
Oherwydd y clo byr a llym bydd ysgolion uwchradd ond yn agor i flynyddoedd 7 ac 8 ar ôl hanner tymor – bydd rhaid i ddisgyblion hŷn dderbyn addysg ar lein yn ystod y clo.
“Mae angen datganiad ar unwaith na fydd arholiadau’n cael eu cynnal yn haf 2021″, meddai Siân Gwenllian AS.
Gweddill gwledydd Prydain
Does dim newid i arholiadau’r haf yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Ond mae llywodraeth yr Alban wedi dweud na fydd yr arholiadau sy’n cyfateb i TGAU yn cael eu cynnal yno – yn hytrach bydd plant yn cael eu hasesu ar sailo gwaith cwrs.
Bydd y Gweinidog Addysg yn cynnal cynhadledd i’r wasg yfory i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion a phirfysgolion yng Nghymru o ran y clo dros dro.