Bydd trafodaethau masnach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn ailddechrau ar ôl i brif drafodwr Brwsel, Michel Barnier, ddweud bod yn rhaid i’r ddwy ochr fod yn barod i gyfaddawdu.

Dywedodd Downing Street fod Mr Barnier a phrif-drafodwr y Deyrnas Unedig, yr Arglwydd Frost, wedi cytuno ar gyfres o egwyddorion ar gyfer “cyfnod dwysach o drafodaethau” fydd yn dechrau ddydd Iau (21 Hydref).

Dywedodd Rhif 10 fod “bylchau sylweddol” yn parhau rhwng y ddwy ochr a’i bod yn gwbl bosibl na fydd trafodaethau’n llwyddo.

Roedd y trafodaethau wedi bod yn y fantol ar ôl i ‘ddyddiad cau’ Boris Johnson ar gyfer bargen a basio’r wythnos ddiwethaf.

Y prif rwystrau o hyd yw hawliau pysgota, sut y caiff unrhyw fargen ei llywodraethu a’r hyn a elwir yn “faes chwarae gwastad” – hynny yw, atal mantais ‘annheg’ drwy gymorthdaliadau gan y wladwriaeth.

“Mae angen dau i daro bargen”

Mae amser yn brin i ddod i gytundeb cyn diwedd y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr.

Dywedodd Mr Barnier wrth Senedd Ewrop: “Mae ein drws yn parhau ar agor. Bydd yn parhau ar agor hyd at y diwrnod olaf y gallwn ni gydweithio.”

Ond dywedodd “mae angen dau i daro bargen”, gan ychwanegu, “Nid ydym yn siŵr mai dyna’r canlyniad y byddwn yn ei gael, a dyna pam mae angen i ni fod yn barod i ddelio â chanlyniadau senario dim bargen posib.”

Dywedodd Mr Barnier fod yr UE yn barod i gyfaddawdu – ond dim ond os byddai Mr Johnson hefyd yn fodlon gwneud hynny.

“Byddwn yn ceisio’r cyfaddawdau angenrheidiol ar y ddwy ochr er mwyn gwneud ein gorau glas i ddod i gytundeb, a byddwn yn gwneud hynny hyd at y diwrnod olaf y mae’n bosibl gwneud hynny,” meddai.

Dywedodd Downing Street fod safbwynt y DU wedi’i nodi gan Mr Johnson a Michael Gove, a oedd wedi bod yn glir bod yn rhaid i’r Undeb Ewropeaidd fod o ddifrif am siarad yn ddwys, ar bob mater, a dod â’r trafodaethau i gasgliad, yn ogystal â derbyn ei bod yn delio â “gwlad annibynnol a sofran”.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10: “Rydym yn croesawu’r ffaith bod Mr Barnier wedi cydnabod y ddau bwynt y bore yma, ac yn ogystal, y byddai angen cyfaddawd gan y ddwy ochr yn y trafodaethau os yw cytundeb am gael ei wneud.

Bydd negodwyr yr Undeb Ewropeaidd yn teithio i Lundain i ailddechrau trafodaethau ddydd Iau.

Dywedodd y llefarydd: “Mae’n amlwg bod bylchau sylweddol yn parhau rhwng ein safbwyntiau yn y meysydd anoddaf, ond rydym yn barod, gyda’r UE, i weld a yw’n bosibl eu pontio mewn trafodaethau dwys.”

Os nad yw bargen yn bosibl, bydd y DU yn dod â’r cyfnod pontio i ben ar yr hyn y mae Rhif 10 yn hoffi alw’n “delerau Awstralia” – ond sydd mewn gwirionedd yn golygu dim cytundeb masnach â’i phartner masnachu mwyaf.

“Mae’n hanfodol nawr bod busnesau, cludwyr a theithwyr y DU yn paratoi’n weithredol ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, gan fod newid yn dod, p’un a gyrhaeddir cytundeb ai peidio.”

“Cynhadledd ddibwrpas”

Daw’r alwad hon i fusnesau baratoi ar gyfer newidiadau ar 1 Ionawr, p’un a oes bargen ai peidio, yn dilyn ymdrechion aflwyddiannus gan Mr Johnson i greu argraff ar benaethiaid busnes mewn cynhadledd rithwir a ddisgrifiwyd gan rai fel un “ddibwrpas”.

Bu’r Prif Weinidog a Mr Gove yn annerch tua 250 o arweinwyr busnes ddydd Mawrth, gan fynnu y byddai’r Deyrnas Unedig yn ffynnu p’un a fydd cytundeb masnach gyda’r UE ai peidio.

“Mae cyfle mawr i’r wlad hon ac rydym am helpu pob un ohonoch i fanteisio ar y cyfle hwnnw,” meddai’r Prif Weinidog.

Ond dywedodd un o’r arweinwyr busnes oedd yn y gynhadledd rithiol: “Roedd yr holl beth drosodd mewn 23 munud. Doedd dim cyfle i ofyn cwestiynau ac roedd wedi’i or-reoli’n llwyr.

“Dim ond tri pherson gafodd ofyn cwestiynau – wedi’u trefnu ymlaen llaw – a dywedwyd wrthym yn y bôn ‘bydd popeth yn iawn’.”

Disgrifiwyd y sesiwn fel “malu awyr a gwamalu”.

“Roedd yn wastraff 23 munud o fy mywyd. Roedd yn ddibwrpas,” meddai’r ffynhonnell nad oedd am gael ei enwi.