Mae Plaid Cymru wedi galw am ganslo arholiadau TGAU a Safon Uwch y flwyddyn nesaf er mwyn osgoi’r un sefyllfa â’r flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Yn dilyn beirniadaeth am y ffordd y cafodd graddau Lefel A a chymwysterau eraill eu cyfrifo, bu’n rhaid i’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wneud tro pedol a rhoi graddau i ddisgyblion ar sail asesiad athrawon.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw helynt Safon Uwch haf 2020 yn cael ei ailadrodd,” meddai Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru.

“Mae angen datganiad ar unwaith na fydd arholiadau’n cael eu cynnal yn haf 2021.

“Mae’r pandemig eisoes wedi dangos i ni fod system sy’n seiliedig ar asesiadau athrawon yn bosibl, a byddai penderfyniad cynnar i ganslo arholiadau’r flwyddyn nesaf yn caniatáu amser i broses safoni ystyrlon gael ei thrafod a’i chytuno.

Sian Gwenllian AS

‘Annheg ar ddisgyblion’

Oherwydd y clo dros dro fydd yn dod i rym ddydd Gwener (Hydref 23), cyhoeddodd y prif weinidog Mark Drakeford mai dim ond disgyblion cynradd a blynyddoedd 7 ac 8 fydd yn dychwelyd i’r ysgol ar ôl hanner tymor.

“Rhaid i ni beidio â thanseilio effaith yr aflonyddwch hwn ar iechyd meddwl a lles ein disgyblion,” meddai Siân Gwenllian.

“Mae’n annheg ar y disgyblion sydd wedi colli ysgol am eu bod yn hunanynysu, ac ar y disgyblion uwchradd hŷn a fydd yn gorfod aros gartref oherwydd y clo dros dro.

“Gall y pryder ychwanegol o arholiadau gael ei ddileu mor hawdd.

“Mae angen gwneud y penderfyniad yr wythnos hon – cyn y clo – i ganslo arholiadau’r flwyddyn nesaf gan osgoi helynt Safon Uwch arall a thro pedol munud olaf a oedd o fudd i neb.”