Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu cyhoeddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod nhw bellach yn cyhoeddi data lleol Covid-19.
Ers wythnosau, mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau’r data i ddangos ymlediad Covid-19.
Roedd data lleol eisoes yn cael ei ryddhau mewn rhannau eraill o wledydd Prydain.
“Wythnos ar ôl wythnos, rydyn ni wedi bod yn annog yr Ysgrifennydd Iechyd i ddefnyddio’r wybodaeth yma – lle bo hynny’n briodol – er mwyn gosod cloeon lleol,” meddai Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“A heddiw, dri diwrnod yn unig cyn gosod ail glo cenedlaethol yma yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi’r data o’r diwedd.
“Mae’n siŵr bod y data yma ar gael ers yn hir ac felly, dylid bod wedi’i ddefnyddio i ddylanwadu a chreu polisi.
“Yn lle hynny, bydd nawr yn achosi i lawer o bobol ar draws ardaloedd helaeth o Gymru gwestiynu pam eu bod yn cael eu rhoi dan glo cenedlaethol.”
Mae’r map (MSOA) i’w weld ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
‘Mae angen gweithredu ymhellach nawr’
Dywed Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i Covid-19 yng Nghymru, fod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru o gyflwyno clo dros dro.
“Mae achosion yn parhau i gynyddu yng Nghymru, mae derbyniadau i’r ysbyty yn cynyddu, gan gynnwys i ofal critigol ac, yn anffodus, felly hefyd mae nifer y bobol sy’n marw o’r feirws”, meddai.
“Er bod mesurau cenedlaethol a lleol wedi gwneud gwahaniaeth, mae angen gweithredu ymhellach nawr.
“Mae’r rheolau newydd hyn yn hanfodol i adennill rheolaeth ar y feirws, i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd, ac i achub bywydau.”