Mae ystadegau yn dangos mai Abertawe yw’r lle gorau i weithio gartref yng Nghymru.

Yn ôl ymchwil gan Uswitch, Harrogate yw’r lle gorau i weithio o adref yn Lloegr, Derry yng Ngogledd Iwerddon a Chaeredin yn yr Alban.

Tra bod Caerdydd yn safle 47 ar y rhestr, mae rhai o ddinasoedd mwyaf Lloegr fel Birmingham (82), Llundain (88) a Manceinion (100) yn llawer is.

Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod 19% o weithwyr yn awyddus i weithio gartref yn amlach yn dilyn y pandemig.

‘Newid ein harferion’

“Mae’r pandemig wedi newid ein harferion gwaith ac wedi rhoi blas i lawer ohonom ar sut y gallai ein bywydau fod pe byddem yn gweithio gartref yn fwy parhaol”, meddai Adelana Carty, arbenigwr band eang Uswitch.

“Nid yw’n syndod felly bod miloedd o bobol yn breuddwydio am roi’r gorau i brysurdeb y byd gwaith a symud i ffwrdd o’r ddinas fawr.”

Mae’r ymchwil yn dangos mai prisiau tai, gwyrddni a chysylltiad band eang dibynadwy yw’r flaenoriaeth i bobol sy’n gobeithio gweithio gartref.

“Gyda llefydd fel Derry a Wigan yn uchel ar y rhestr, mae’n dangos pa mor wahanol yw ein blaenoriaethau yn hytrach na phoeni am gymudo.

“Ac mae llefydd fel Abertawe yn hynod apelgar oherwydd ardal hyfryd y Gŵyr gerllaw.”

O ddydd Gwener (Hydref 23) ymlaen, bydd gofyn i bawb yng Nghymru aros gartref yn ystod y clo dros dro, a gweithio gartref lle bo’n bosib i leihau ymlediad y coronafeirws.

Symud o’r ddinas i’r wlad

Yn ôl yr ymchwil, mae 17% o bobol eisoes wedi symud neu eisiau symud oherwydd buddion gweithio gartref.

Yn gyffredinol, mae pobol eisiau symud o ddinasoedd a threfi mawr i drefi a phentrefi llai.

Cafodd protestiadau eu cynnal yn ddiweddar yng Ngwynedd a Môn oherwydd yr “argyfwng ail gartrefi” sydd, yn ôl rhai, yn deillio o’r newid yn arferion gwaith pobol.