Mae newyddiadurwr o Gymru yn gobeithio rhoi blas o’r “America go iawn” i wylwyr Cymru a’i ffilm ddogfen newydd ar S4C.

Ar Dachwedd 3 mi fydd pobol yr Unol Daleithiau yn heidio i’r blychau pleidleisio ac yn penderfynu a fydd Donald Trump yn parhau yn y Tŷ Gwyn – neu a fydd yn cael ei ddisodli gan Joe Biden.

Ac i nodi’r digwyddiad tyngedfennol yma mi fydd y ffilm awr o hyd, Trump, America, a Ni yn cael ei darlledu ar donfeddi S4C (Hydref 26).

Jason Edwards a Maxine Hughes yw cyflwynwyr y rhaglen, ac yn ôl y Gymraes alltud mae’r ffilm yn rhoi darlun o agweddau ar yr UDA sydd ddim fel arfer yn ennyn sylw.

“Dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n gweld digon o beth sydd really yn mynd ymlaen yn America,” meddai’r newyddiadurwr. “Ac roedden ni moyn dangos yr America go iawn i gynulleidfa S4C.

“Y straeon yma o bobol dydych chi byth fel arfer yn eu gweld. Roeddem ni jest eisiau rhoi rhywbeth hollol wahanol i’r gynulleidfa.”

Fe anfonodd y ddau glip at golwg360 yn trafod y rhaglen a’u taith…

Y daith

Mae’r ffilm yn dilyn taith y Cymry alltud o arfordir dwyreiniol y wlad hyd at y gorllewin – taith a barodd tair wythnos i gyd.

Ac mae’n rhoi sylw i bobol o bob perswâd gwleidyddol gan gynnwys protestwyr gwrth-hiliaeth yn ninasoedd Washington D.C a Portland, a pherchnogion arfau Idaho.

Mae Maxine Hughes, 40, yn dod o Gonwy yn wreiddiol, ac ers ei harddegau mae wedi treulio cyfnodau yn byw yn yr UDA. Bellach mae hi’n byw yn Washington D.C gyda’i theulu.

Un o Ynys Môn yw Jason Edwards, 29, ac mae yntau’n byw yn Pittsburgh, Pennsylvania, lle mae’n gweithio’n hyfforddwr pêl-droed.

Mae hefyd yn dad ac yn ŵr – mae ei wraig a’i theulu yn cefnogi’r gweriniaethwyr – ac mae yntau’n rhoi blas o’r Unol Daleithiau a’r protestiadau gwrth-hiliaeth o safbwynt Cymro du.

  • Gallwch chi wylio ‘Trump, America, a Ni’ ar S4C ar Hydref 26, ac mi fydd cyfres podlediad gan y pâr, Ein America Ni, yn cael ei ffrydio yn ei sgil.
  • Gallwch chi ddarllen cyfweliad llawn gyda’r cyflwynwyr yn Golwg yr wythnos hon.
  • Gallwch chi ddarllen sylwadau Maxine Hughes am yr ornest arlywyddol yn Golwg yr wythnos hon.