Ar drothwy etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, mi fydd S4C yn darlledu ffilm ddogfen a fydd, yn ôl un o’r cyflwynwyr, yn “dangos yr America go-iawn” i wylwyr yng Nghymru.

Ar Dachwedd 3 mi fydd pobol yr Unol Daleithiau yn heidio i’r blychau pleidleisio ac yn penderfynu a fydd Donald Trump yn parhau yn y Tŷ Gwyn – neu a fydd yn cael ei ddisodli gan Joe Biden.