Er bod y mwyafrif helaeth o’r ddinas dan glo, mae gan drigolion Bangor yr hawl i droedio’r pier a mwynhau tywydd hydrefol hyfryd.

Fe gafodd Pier y Garth ei adeiladu yn 1896 a dyma’r ail bier hiraf yng Nghymru, sy’n 460 o fetrau ar ei hyd.

Pier Llandudno yw’r hiraf yn y wlad – 700 metr.