Dw i’n rhywun all fynd yn itha crac am lot o bethe – iaith, camsefyll ar y cae pêl-droed, cerddoriaeth canol y ffordd – unrhyw beth rili. Ond yn ddiweddar dw i wedi sylwi bo’ fi ddim, bellach, yn gallu mynd yn grac am bethe allech chi alw’n bethe… pwysig.

Yn un peth, yn wahanol i lot o bobol, alla’ i ddim mynd yn grac am gyfyngiadau’r coronafeirws. Gwir, dw i wedi grwgnach am y rheol 10pm a thafarndai, ond fydd e ddim am byth, so dyna ni.