Mae cantores werin o Wynedd sy’n byw mewn carafán wedi cychwyn grŵp Amddiffyn Cymunedau Gwledig, a hynny am fod tai haf bellach “yn broblem i bawb” ar draws Cymru.
Daw Catrin O’Neill o linach y bardd enwog Hedd Wyn ac mae hi’n aelod o Gyngor Cymuned pentref Aberdyfi yn ne Gwynedd.
Mae hi’n byw o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri, a dechrau’r wythnos hon roedd Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio’r Parc yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y ddeddf mewn perthynas â thai haf.
Mae’r Cynghorydd Elwyn Edwards eisiau gorfodi perchnogion i gyflwyno cais cynllunio cyn gallu troi tŷ yn ail gartref neu dŷ haf.
Fe ddywedodd wrth Radio Cymru fod pobol wastad wedi bod yn prynu tai haf yn ardal y Parc, ond bod y broblem wedi gwaethygu yn ddiweddar.
Ond mae Catrin O’Neill yn dweud na fydd newid y ddeddf yn datrys y broblem yn ei hardal hi.
“Dw i’n credu ei fod o’n rhy hwyr i Aberdyfi, ond dw i’n dal i frwydro – mae cymaint o bentrefi eraill rŵan, mae o’n tyfu dydi?”
O ran y niferoedd o dai haf yn ei phentref genedigol, mae Catrin O’Neill yn amcangyfrif fod y ffigwr rhwng 75% a 80% yn Aberdyfi.
“Merch o Aberdyfi ydw i born and bred ac mae Bleddyn – hogyn bach fi – yn bumed genhedlaeth o’r teulu.”
Fel llawer o rieni, mae Catrin O’Neill a’i gŵr yn awyddus i’w mab gael yr opsiwn o fyw gydol ei oes yn ei filltir sgwâr, os mai dyna yw ei ddymuniad.
“Ond mae byw yn y pentref yn amhosib i ni,” meddai’r gantores.
“Mae calon a chanol y pentref jest yn wag a does neb yn byw yn y canol. Mae gan Mam a Dad dŷ mewn stryd jest tu ôl i’r stryd o flaen glan y môr, a dim ond tua thri tŷ sy’n residential allan o 15 – mae’r gweddill i gyd yn dai gwyliau. Os rydych yn gyrru o un ochr y pentref i’r llall, does yna ddim goleuadau ymlaen dim ond hwyrech mewn deg o dai ar y ffrynt yn y gaeaf.”
Mae poblogaeth pentref Aberdyfi rhwng 500 a 700 yn y gaeaf, meddai, “ond ar Ŵyl y Banc ym mis Awst mae o’n 3,000. Pan oedd Mam yn fach roedd dwy ysgol gynradd yn y pentref, ond rŵan dim ond chwech o blant oed ysgol gynradd sy’n byw yn y pentref – chwech!”
Mae Catrin O’Neill yn awyddus i bwysleisio ei bod hi “ddim yn erbyn twristiaeth, ond dw i o blaid y gymuned ac o blaid twristiaeth gynaliadwy.
“Dw i ddim eisio i bobol losgi tai [haf] – dw i ddim fel yna. Dw i eisio darganfod datrysiad positif i’r problemau yma. Be’r ydan ni angen ei wneud ydi canolbwyntio ar ein cymunedau, eu gwneud nhw’n gryf a thrio cael ein pobol ifanc i aros yn y pentrefi yma a’u galluogi nhw i ddechrau eu busnesau eu hun i [fedru] fforddio’r tai yma.”
Mae Catrin O’Neill yn ennill ei bara menyn yn canu caneuon gwerin Cymraeg a Cheltaidd ac mae ganddi albwm ddwyieithog o’r enw Cegin Nain gyda llun o’r gegin ar y clawr. Ond mae yn loes calon iddi fod tŷ ei nain bellach yn dŷ haf ac mae ei chân ‘Thorn Tree’ yn tynnu sylw at y broblem tai haf.
“Diolch byth, rydan ni’n gwybod am y bobol sydd wedi prynu’r lle … dydyn nhw i gyd ddim yr un fath – mae rhai yn cymryd rhan yn y gymuned ac maen nhw’n lyfli. Ond rydych yn cael rhai sydd ddim hyd yn oed yn sylweddoli eu bod nhw mewn gwlad wahanol efo iaith wahanol.”
Amddiffyn Cymunedau Gwledig
Yr wythnos ddiwethaf cafwyd y cyfarfod cyntaf o’r mudiad newydd drwy gyfrwng fideo-gynadledda dros y We, gyda phobol o bob cwr o Gymru.
Ond mae tudalen Facebook Amddiffyn Cymunedau Gwledig yn tyfu mor gyflym fel bod Catrin O’Neill am greu gwefan i’r mudiad.
“Mae cymaint o bobol yn trio gwneud yr un peth a dydyn ni ddim yn gwybod amdan ein gilydd. Mae yna griw yn ardal Aberteifi ac maen nhw’n rhoi dogfen at ei gilydd yn gofyn i bob darpar Aelod o’r Senedd beth maen nhw am wneud am y problemau sy’n wynebu ein cymunedau gwledig.”
Mae Catrin O’Neill yn pwysleisio’r angen am drafodaeth bositif am dai haf.
“Mae o’n yfflwm o broblem,” meddai gan gymharu Aberdyfi gydag Abersoch ym Mhen Llŷn, a phwysleisio bod tai haf bellach “yn broblem i bawb” ar draws Cymru.
Llywodraeth Cymru ddylai fod yn taclo’r broblem yn ôl Catrin O’Neill.
“Gallan nhw newid y polisïau cynllunio, gallan nhw roi cap [ar nifer y tai haf] – maen nhw wedi ei wneud o mewn llefydd eraill fel Jersey. Mae gynnon ni Senedd, pam bod nhw’n gwneud dim byd o gwbl am hyn?
“Dw i ddim yn deall! Dw i ddim yn aelod o Blaid Cymru, ond dw i’n gweld bod nhw’n trïo gwneud rhywbeth.”
Mabon ap Gwynfor yw ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Dwyfor-Meirionnydd yn etholiad nesa’r Cynulliad yn 2021. Ac ato fo yr aeth y Cynghorydd Catrin O’Neill am gymorth pan oedd dyn lleol wedi ei eni a’i fagu yn Aberdyfi yn chwilio am do uwch ei ben.
Roedd y dyn yn ddigartref ac yn byw mewn llety gwely a brecwast, eglura Mabon ap Gwynfor wrth Golwg.
“Roedd hyn yn syfrdanol,” meddai.
“Mewn cymuned lle mae 80% o’r tai yn wag am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, a thai yn gwerthu am filiynau o bunnoedd a gyda rhai o bobol gyfoethocaf Prydain yn berchen ar dai gwyliau yno, roedd yn gwbl anfoesol fod y dyn lleol yma’n ddigartref.”
Does gan Mabon ap Gwynfor, sy’n gynghorydd sir tros ward Llandrillo yn Sir Ddinbych, ddim amheuaeth “fod yna argyfwng yn wynebu ein cymunedau ar hyn o bryd o ran tai [sy’n] dinistrio ein cynefinoedd a’n cymunedau, ac mae angen dod â’r holl beth o dan reolaeth.
“Nid mater o droi cenedl yn erbyn cenedl ydyw, ond mater o hawliau cymdeithasol sylfaenol – yr hawl i fyw yn eich cynefin os mai dyna eich dymuniad; yr hawl i gael to uwch eich pen a byw mewn urddas.”
Yn ogystal, meddai, “dylid rheoli AirBnB a phlatfformau cyffelyb trwy gyfyngu ar sawl diwrnod y gellir eu llogi allan, neu ddilyn enghraifft Palma [Mallorca] sy’n dweud mai dim ond eich tŷ eich hun y cewch chi ei logi allan i eraill ar y platfformau yma. Mae yna gamau cadarnhaol y gellir eu cymryd.”
Byw o fewn Parc Cenedlaethol Eryri
Ar hyn o bryd mae Catrin O’Neill a’i theulu yn byw mewn carafán yng Nghwm Maethlon y tu ôl i bentref Aberdyfi, ac yn treulio hanner eu hamser yn nhŷ Nain a Taid.
“Rydan ni wedi prynu fferm fach 12 erw oddi wrth ewythr a modryb i fi, ac rydan ni wedi bod yn trïo ailwneud hen feudy yn dŷ bach ac wedi cael bob math o drafferthion gydag adran gynllunio Parc Cenedlaethol Eryri.”
Mae Catrin O’Neill yn dweud ei bod yn annheg bod y rheolau cynllunio “yn gwneud pethau mor anodd i bobol leol.
“Rydan ni wedi cael caniatâd i droi’r beudy bach yma i mewn i annex – tydan ni ddim i fod i gael cegin iawn, dim ond kitchenette. Tua dwbl maint y garafán statig fydd [yr annex], ac rydan ni wedi gorfod brwydro i gael hynny,” meddai.
Roedd y gantores wedi clywed ar lawr gwlad bod modd talu swm o £45,000 i’r Parc er mwyn codi ambell i amod cynllunio, ond dyw hynny ddim yn wir yn ôl Jonathan Cawley sy’n Gyfarwyddwr Cynllunio a Rheolaeth Tir Parc Cenedlaethol Eryri.
“Mae yna bolisi eithaf caeth am sut rydan ni’n diffinio annex a’r rheswm ydi er mwyn osgoi bod yr annex yn cael ei droi i mewn i dŷ ar wahân,” eglura’r Cyfarwyddwr.
“Reit aml – a dw i ddim yn dweud bod Catrin yn trïo ei wneud o – mae pobol yn trio cael tŷ drwy’r drws cefn wrth fynd am annex yn y lle cyntaf.”
Yr enw ar y taliad o £45,000 ydi ‘swm cymudo’, eglura Jonathan Cawley, gan ychwanegu ei fod “wedi cael tipyn o fraw” fod hynny’n cael ei weld yn ffordd o dalu arian er mwyn codi amodau cynllunio.
“Yn fras iawn,” meddai wrth egluro’r sefyllfa gynllunio, “rydan ni’n caniatáu i bobol drosi adeiladau gwledig. Os oes gennych feudy, neu beth bynnag, mi gewch chi ganiatâd i’w droi i mewn i ddau neu dri gwahanol beth. Rydym yn annog pobol i’w troi nhw at ddefnydd cyflogaeth – felly os oes rhywun eisio trosi beudy i mewn i swyddfa, grêt. Rydan ni hefyd yn caniatáu rhywun i’w troi nhw’n dŷ sy’n fforddiadwy i rywun lleol. Os ydyn nhw ddim eisio gwneud yr un o’r ddau opsiwn yna, rydan ni wedyn yn caniatáu tŷ marchnad agored [fyddai’n] cael ei werthu i rywun,” meddai gan gydnabod nad oes ganddo reolaeth ar bwy fyddai’n prynu’r tŷ, tasa fo’n cael ei werthu.
“Yn yr achosion yna, rydan ni’n gofyn am yr hyn yr ydan ni’n ei alw yn swm cymudo, ac eto [fel gyda’r rheolau annex] dydi hyn ddim yn rhywbeth sy’n unigryw i’r Parc. Mae o fwy neu lai yn rhywbeth mae pob awdurdod cynllunio yng Nghymru yn ei wneud hefyd.”
Y rheswm am godi’r ffi yw bod tŷ marchnad agored efo gwerth sy’n “sylweddol fwy” na thŷ fforddiadwy, eglura Jonathan Cawley.
“Yn y mwyafrif o achosion, tua £45,000 ydi o’r dyddiau yma. Ond mae hynny wedyn yn cael ei wario ar faterion tai fforddiadwy lleol yn y Parc neu yn yr ardal yna. Felly rydan ni’n colli tŷ fforddiadwy mewn ffordd… ond rydan ni’n cael rhywfaint o daliad ar gyfer gwario’r arian yna ar faterion tai fforddiadwy i bobol leol yn yr ardal.”
Yn ddiweddar, meddai, fe ddaru’r Parc yn ardal sir Conwy ddod â thri thŷ oedd wedi bod yn wag am beth amser yn ôl i ddefnydd, a bellach mae’r tai hynny wedi eu gosod i bobol leol.
“Dyna [sut] mae’r symiau cymudo yma yn cael eu gwario” meddai gan ychwanegu bod “rhyw £200,000 yn y pot” swm cymudo “dros y tair i bedair blynedd diwethaf. “Mae o’n amrywio, ond yn llai na £100,000 y flwyddyn… ac mae o’n aros yn y pot nes mae yna gyfle yn codi i’w wario fo ac rydan ni’n gweithio efo Cynghorau Gwynedd a Conwy i adnabod y cyfleoedd yma.”
- Gallwch chi ddarllen sylwadau Eluned Morgan wrth iddi amddiffyn record tai haf Llywodraeth Cymru yn Golwg yr wythnos hon.