Mae adroddiadau y bydd Llywodraeth Cymru yn camu i mewn i reoli rheilffyrdd Cymru yn dilyn trafodaethau gyda’r gweithredwr presennol, wrth i Covid gael effaith enfawr ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Yn ol adroddiad ym mhapur y Telegraph fe allai Trafnidiaeth Cymru gymryd rheolaeth uniongyrchol yn lle’r fenter gyfredol – menter ar y cyd rhwng cwmniau Keolis, cwmni trafnidiaeth o Ffrainc, ac Amey, cwmni seilwaith â’i bencadlys yn Llundain ond sy’n is-gwmni i gwmni Ferrovial o Sbaen.

Gwladoli?

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwmni di-elw sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru ac a reolir o hyd braich gan fwrdd penodedig – felly mae’n debygol o gael ei ystyried fel cam tuag at wladoli’r rheilffyrdd.

Er y bydd y ddau gwmni sy’n rhan o’r fenter gyfredol yn parhau i fod yn gyfrifol am gledrau a seilwaith arall, Trafnidiaeth Cymru – y corff a sefydlwyd i oruchwylio’r fenter wreiddiol – fydd yn rheoli’r gwasanaethau o hyn allan, wrth i’r cyfrifoldeb am hynny gael ei drosglwyddo’n ôl i’r wladwriaeth yn dilyn cyfnod Covid lle mae nifer y teithwyr bellach yn ganran fechan iawn o’r sefyllfa arferol.

Mae disgwyl i Weinidogion gyhoeddi’r trosglwyddiad o weithrediadau i Trafnidiaeth Cymru ddydd Iau (22 Hydref), meddai ffynhonnell wrth y Telegraph.

Mewn trydariad, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Yfory [dydd Iau 22 Hydref] bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth [Ken Skates] yn cyhoeddi cyfres o fesurau i ddiogelu gwasanaethau i deithwyr trên, cynnal swyddi, a chadw momentwm ar brosiect y Metro, yng ngoleuni’r pandemig.”

Tanwariant

Dair wythnos yn ol, ysgrifennodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Grant Shapps AS, i fynegi’i bryderon dwys am ei gyhoeddiad o £343m o arian “ychwanegol” ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru.

“I bob golwg, ychydig iawn o’r pecyn sy’n arian ‘newydd’”, meddai Ken Skates yn ei lythyr bryd hynny.

“Er enghraifft, y £58m ar gyfer gorsaf ganolog Caerdydd. Yn wir, cafodd rhannau o’r pecyn, fel yr arian ar gyfer trydaneiddio’r Cymoedd, eu cyhoeddi nôl yn 2014.”

Ar yr un adeg, cyfeiriodd Ken Skates at ymchwil gan Lywodraeth Cymru oedd yn tybio y gallai’r buddsoddiad o £50 biliwn yn rhwydwaith rheilffyrdd Lloegr dros y degawd nesaf arwain at danwariant o £2.4biliwn ar reilffyrdd Cymru.

Dywedodd Kan Sates bryd hynny: “Yn fy marn i, dim ond trwy ddatganoli’r pwerau dros seilwaith rheilffyrdd i Lywodraeth Cymru ynghyd â setliad cyllido llawn a theg, y mae gobaith unioni’r sefyllfa.”