Mae undebau myfyrwyr yng Nghymru wedi croesawu £10m o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi myfyrwyr prifysgol yn ystod y pandemig.

Bwriad y cyllid yw cynyddu capasiti gwasanaethau cymorth undebau myfyrwyr a phrifysgolion i fyfyrwyr.

Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth i fyfyrwyr sy’n hunan ynysu.

Mae achosion o’r coronafeirws bellach wedi eu cofnodi ym mhob un o brifysgolion Cymru.

“Heriau unigryw”

Eglurodd Ffion Davies, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, fod “pwysau ychwanegol” y pandemig wedi ychwanegu at bryderon myfyrwyr eleni.

“Mae setlo i fywyd prifysgol a bod i ffwrdd o deulu yn ddigon anodd, heb sôn am bwysau ychwanegol y pandemig”, meddai wrth golwg360.

“Mae ein myfyrwyr dros y misoedd diwethaf wedi wynebu, ac yn parhau i wynebu nifer o heriau unigryw, a’n blaenoriaeth ni yw bod yno iddynt a sicrhau bod cefnogaeth ar gael iddynt.

“Rydym wedi cyflwyno nifer o weithdai ac adnoddau iechyd meddwl, yn ogystal â gweithio’n agos gyda’r Brifysgol i ofalu am fyfyrwyr sy’n hunan ynysu.

“Bydd y cyllid ychwanegol yma yn ein galluogi i fynd gam ymhellach, ac i fynd i’r afael â phryderon ynghylch caledi myfyrwyr a thlodi digidol.”

‘Galw na welwyd ei debyg o’r blaen’

Yn ôl Becky Ricketts, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru, fod gwasanaethau iechyd meddwl prifysgolion ac undebau myfyrwyr yn “wynebu galw na welwyd ei debyg o’r blaen oherwydd effaith y pandemig.”

“Dyma fuddsoddiad yn lles myfyrwyr ar draws Cymru, sydd i’w groesawu”, meddai.

“Rydym hefyd yn croesawu’r cyllid i fynd i’r afael â thlodi digidol ac ar gyfer undebau myfyrwyr, sydd wedi gwneud cryn dipyn o waith eleni i gefnogi myfyrwyr a’r gymuned ehangach.”

Ychwanegodd Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru bydd y cyllid ychwanegol yn helpu prifysgolion yng Nghymru i “reoli’r heriau a fydd, heb os, yn codi yn ystod y misoedd nesaf.”

Ymhlith y gwasanaethau sydd yn cael eu cefnogi gan y cyllid ychwanegol mae:

  • gwasanaethau iechyd meddwl
  • cronfeydd caledi ariannol
  • gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a staff
  • cymorth i fyfyrwyr sy’n hunan ynysu
  • mesurau i sicrhau bod prifysgolion yn fwy diogel rhag hunanladdiad
  • gwasanaethau ar-lein a chymorth drwy gyfrwng y
  • Gymraeg
  • tlodi digidol
  • myfyrwyr ag anableddau neu gyfrifoldebau gofalu

Mae’r cyllid yn ychwanegu at y Gronfa Buddsoddi ac Adfer Addysg Uwch gwerth £27m gyhoeddwyd yn gynharach eleni.

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

‘Cefnogi myfyrwyr yn flaenoriaeth’

Wrth gyhoeddi’r cyllid diweddaraf, dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg fod y coronafeirws wedi rhoi pwysau ychwanegol ar fyfyrwyr.

“Gall mynd i ffwrdd i’r brifysgol fod yn gyfnod anodd i lawer o fyfyrwyr, ac mae wedi bod yn fwy anodd o ganlyniad i’r amgylchiadau presennol”, meddai.

“Mae cefnogi ein prifysgolion a’n myfyrwyr eleni yn arbennig wedi bod yn flaenoriaeth i mi.

“Yn dilyn y £27m a gyhoeddais i gefnogi ein prifysgolion eleni, bydd y cyllid hwn yn helpu prifysgolion i barhau â’u rôl bwysig o gefnogi a datblygu ein myfyrwyr.”

Bydd y Gweinidog Addysg yn cynnal cynhadledd i’r wasg i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid ychwanegol a sefyllfa’r coronafeirws yng Nghymru am 12:15, Hydref 22.