Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol o dros £50m i brifysgolion a cholegau.
Mae’r gefnogaeth yn rhan o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi myfyrwyr a phrif sefydliadau addysg Cymru ac i ddarparu’r sgiliau a’r dysgu fel ymateb i effaith economaidd y coronafeirws.
Bydd £27m yn cael ei ddarparu i sefydliadau addysg uwch gyda £23m i gefnogi myfyrwyr mewn colegau Addysg Bellach a chweched dosbarth.
Addysg Uwch
Bydd £27m yn cael ei ddarparu i brifysgolion drwy Gronfa Adfer a Buddsoddi mewn Addysg Uwch ar gyfer Cymru, i gynnal addysgu ac ymchwil ym mlwyddyn academaidd 2020-21.
Bydd y Gronfa Adfer yn cael ei sefydlu i gefnogi prifysgolion i gynnal swyddi, ymchwil a gwasanaethau myfyrwyr, a buddsoddi mewn prosiectau er mwyn cefnogi’r adferiad economaidd a chefnogi myfyrwyr sy’n dioddef problemau ariannol.
Addysg Bellach a chweched dosbarth
- Mwy na £15m yn cael ei ddarparu i ddysgwyr sy’n dechrau ar gwrs Safon Uwch neu alwedigaethol mewn coleg Addysg Bellach neu chweched dosbarth.
- Hyd at £5m yn cael ei ddarparu i gefnogi dysgwyr galwedigaethol i ddychwelyd i’r coleg.
- £3.2m ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i ddarparu offer digidol fel gliniaduron ar gyfer dysgwyr coleg.
- £466,000 i gefnogi myfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni Sgiliau Byw yn Annibynnol.
- £100,000 i gefnogi prosiectau iechyd meddwl a lles rhanbarthol a datblygiad proffesiynol ym maes Dysgu Cymunedol awdurdodau lleol.
“Mae ein prifysgolion a cholegau yma yng Nghymru o safon byd, am eu hymchwil a bywyd myfyrwyr. Dangosodd yr arolwg diweddaraf ar fyfyrwyr, a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, fod prifysgolion Cymru ar y blaen unwaith eto i’r DU ar gyfer boddhad myfyrwyr,” meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
“Ni fydd gennym ddarlun llawn o effaith y pandemig ar brifysgolion tan y tymor nesaf, ond bydd y cyllid hwn yn darparu cefnogaeth hanfodol i’n sefydliadau ni wrth iddynt baratoi ar gyfer yr hydref.
“Byddwn yn ystyried y sefyllfa eto yn yr hydref, er mwyn parhau â’n cefnogaeth i’r adferiad economaidd a chymdeithasol yn dilyn Covid-19.”
Cyllid ychwanegol yn “gydnabyddiaeth o rôl y sector prifysgolion”
Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn “gydnabyddiaeth o rôl y sector prifysgolion wrth adfer o Covid-19”, meddai cadeirydd Prifysgolion Cymru, Julie Lydon.
“Mae’r datganiad hwn yn dangos bod Llywodraeth Cymru’n benderfynol o ddarparu sefydlogrwydd i ein prifysgolion ac yn tawelu meddyliau myfyrwyr sydd wedi garddio profiad myfyriwr yng Nghymru fel rhagorol,” meddai.
“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod prifysgolion, gan weithio gydag ein partneriaid, yn gallu darparu newidiadau a’r buddion sydd ei angen yng Nghymru wrth adeiladu dyfodol newydd.”
Yn ôl prif weithredwr HEFCW, mae Llywodraeth Cymru’n “cydnabod pwysigrwydd sector addysg uwch cryf yn y buddsoddiad hwn”.
“Mae gwytnwch darparwyr addysg uwch o’r pwys mwyaf i’r myfyrwyr sy’n dewis ac yn mynd trwy’r system yng Nghymru,” meddai Dr David Blaney.
“Byddan nhw’n disgwyl nid yn unig profiad myfyrwyr o’r radd flaenaf ond hefyd i brifysgolion fod wedi paratoi’n dda ar gyfer newidiadau i ddysgu ac addysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-21.
“Mae’r arian ychwanegol yn gyfraniad gan Lywodraeth Cymru i’w groesawu’n fawr wrth iddyn nhw gefnogi’r sector addysg uwch yng Nghymru wrth ymateb i’r heriau sydd wedi’u cyflwyno gan Covid-19.
“Mae’r sector addysg uwch yn rhan o’n hisadeiledd cenedlaethol ac mae prifysgolion Cymru eisoes wedi dangos eu bod nhw’n hanfodol wrth ateb yr heriau economaidd a chymdeithasol rydyn ni’n eu hwynebu wrth adeiladu cenedl ôl-Covid-19.
“Mae buddsoddiad parhaus mewn darparwyr addysg uwch yn hanfodol.”