Cafodd 14 o bobol eu dal yn gyrru’n rhy gyflym ger Aberhonddu ddydd Sul (Gorffennaf 19), yn ôl yr heddlu, sy’n dweud bod dau feic yn teithio ar gyflymdra o 127 milltir yr awr.
Fe fu’r heddlu’n gweithredu ymgyrch Darwen i dynnu sylw at ddiogelwch ar y ffyrdd, ac fe wnaethon nhw ddewis yr A470 ger Aberhonddu yn sgil nifer o gwynion gan drigolion lleol yn ddiweddar.
Y cyflymdra mwyaf ar gyfer car ar yr un diwrnod oedd 98 milltir yr awr, wrth i Aston Martin gael ei weld gan yr heddlu, oedd hefyd wedi gweld Ford Focus RS yn teithio ar gyflymdra o 96 milltir yr awr.
Dywed yr heddlu fod cyflymdra’r cerbydau’n “syfrdanol” a bod y gyrwyr yn rhoi bywydau mewn perygl.
Cafodd nifer o bobol eraill eu dal yn gyrru’n rhy gyflym ac yn cyflawni sawl trosedd arall yn ymwneud â cherbydau.