Mae’r heddlu’n ymchwilio i farwolaeth plentyn dwy oed yn Hwlffordd.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i eiddo fore Gwener (Gorffennaf 17).

Bu farw’r plentyn yn yr ysbyty heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 21), ac mae’r teulu’n cael cefnogaeth gan yr heddlu.

Mae dau o bobol wedi’u harestio ar amheuaeth o ymosod ac o esgeulustod, ac mae’r ymchwiliad yn parhau.