Mae rhai o ffigurau amlwg y sîn roc a phop yng Nghymru’n dweud y bydd colled fawr wrth i gylchgrawn Q Magazine ddod i ben.
Fe fydd yna lai o gyfleoedd i artistiaid hyrwyddo eu cerddoriaeth, meddai Gruffydd Owen, sylfaenydd label Libertino.
Ac yn ôl y cyflwynydd a rheolwr Rhys Mwyn, mae’n arwydd o barodrwydd cwmnïau mawr i gael gwared ar gynnyrch sy’n gwneud colled.
Mae colli Q yn “bechod,” meddai, “oherwydd roedd Q yn gylchgrawn aeddfed lle’r oedd cerddoriaeth yn cael ei thrin o ddifrif”.
Ymddiheuro
Mae golygydd Q, Ted Kessler, wedi ymddiheuro yn dilyn y choeddiad bod y cylchgrawn yn dod i ben, gan roi’r bai ar bandemig y coronafeirws.
“Rydym wedi gweithredu’n ofalus drwy gydol fy amser yn y swydd, gan ddefnyddio nifer o ddulliau gwahanol er mwyn gallu parhau i argraffu mewn marchnad brint sy’n llawn sialensiau,” meddai.
“Mae Covid-19 wedi dinistrio hynny i gyd.”
Bydd argraffiad olaf y cylchgrawn yn cael ei gyhoeddi’n hwyrach y mis hwn.
“Y Goreuon”
Bydd yr argraffiad olaf o Q Magazine yn dathlu “y goreuon” o’u hen erthyglau a chloriau yn ôl Ted Kessler.
Dros y blynyddoedd mae nifer o artistiaid Cymreig wedi ymddangos ynddo, gan gynnwys y Super Furry Animals, Cerys Matthews a Trwbador.
Mae’r cylchgrawn hefyd wedi cyhoeddi cyfweliadau gyda rhai o’r artistiaid mwyaf yn y byd, gan gynnwys David Bowie, Sting, Liam Gallagher a Madonna.
“Ddim yn syndod” – Rhys Mwyn
Mae’r cyn aelod o’r band Anrhefn a chyflwynydd radio, Rhys Mwyn wedi dweud nad yw hi “ddim yn syndod” gweld Q Magazine yn mynd i’r wal.
“Mae’r byd yn newid, mae patrymau ac arferion pobol yn newid, a’r we sy’n gyrru pethau ymlaen bellach,” meddai.
“Yr hyn sydd wedi digwydd ydi bod cwmni sy’n berchen ar sawl cylchgrawn wedi penderfynu cael gwared arno am resymau economaidd, yn y bôn doedd Q ddim yn cynhyrchu digon o arian.
“Mae yna sôn am covid-19 fel y trigger olaf ond mae cwmnïau mawr yn fwy na pharod i gael gwared ar bethau sydd ddim yn gwneud arian iddyn nhw.”
“Llai o gyfleoedd i artistiaid allu hyrwyddo cerddoriaeth” – Gruffydd Wyn Owen
Mae sylfaenydd label Gymreig Libertino, Gruffydd Wyn Owen, wedi rhybuddio y bydd yna golled ar ôl y cylchgrawn.
“Mae popeth yn symud ar-lein, blogs ac ati, ond imi mae yna rywbeth arbennig am gylchgronau fel Q.
“Wrth ddarllen drwy Q, roeddech chi’n cael gwybod am fandiau doeddech chi ddim yn ymwybodol ohonyn nhw o’r blaen.
“Ond ar-lein mae o’n lot haws skipio trwy bethau a darllen am fandiau chi’n gwybod amdanyn.
“Dwi’n teimlo bod darllen am gerddoriaeth ar-lein yn llawer iawn mwy oeraidd na gafael mewn cylchgrawn darllen drwyddo.”